Telemat yn ennill Nod Ymddiriedaeth o fri

Ymddiriedaeth yn ffactor allweddol yng nghynlluniau cwmni TG o Sir Gâr ar gyfer tyfu

Yn ddiweddar, enillodd cwmni gwasanaethau TG o Gastellnewydd Emlyn Nod Ymddiriedaeth o fri i Fusnesau TG yn rhan o’i gynlluniau ar gyfer tyfu yn 2013.

Mae Telemat yn is-gwmni y mae Menter Gymdeithasol Antur Teifi yn berchen yn llwyr arno. Mae’r cwmni wedi bod yn darparu cyngor a gwasanaethau TG i gleientiaid ledled Cymru ers 1996, ac mae’n gwybod yn iawn beth y mae angen i gwmnïau ei gael gan Telemat er mwyn cynnal perthynas hirdymor.

Mae Clive Davies, Rheolwr Gweithrediadau Telemat – sydd wedi bod gyda’r cwmni ers y dechrau – wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer tyfu i’r cwmni eleni, ac mae’n gwybod y bydd meithrin ymddiriedaeth cleientiaid yn allweddol wrth geisio cyrraedd y targedau hynny.

“Rydym yn gwybod bod angen i’n cleientiaid gael gwasanaeth cystadleuol ac effeithlon ar gyfer eu systemau TG. Maent yn fwy dibynnol nawr nag erioed ar gael systemau TG sy’n perfformio’n gyson,” meddai Clive.

“Mae hynny’n golygu bod angen i ni berfformio’n gyson, sicrhau bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau newydd, a sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaeth amserol a chost-effeithiol,” ychwanegodd.

Mae Clive yn falch bod Telemat wedi gallu dangos y lefel hon o wasanaeth, ac mae rhai o’r cleientiaid presennol sydd wedi bod gyda’r cwmni ers iddo gael ei sefydlu yn 1996 yn tystio i hynny.

Mae lefel ac ansawdd gwasanaeth y cwmni ar hyd y blynyddoedd wedi’u gwobrwyo erbyn hyn wrth i Telemat ennill Nod Ymddiriedaeth CompTIA i Fusnesau TG. Cymdeithas fasnach ryngwladol ar gyfer y diwydiant TG yw CompTIA, sy’n ceisio hybu arfer da yn y diwydiant.

Mae Telemat yn un o 5 yn unig o gwmnïau yng Nghymru sydd wedi ennill y Nod Ymddiriedaeth, ac mae’n hyderus y bydd y safonau sy’n ofynnol i ennill y gydnabyddiaeth yn rhoi’r cwmni mewn sefyllfa dda i gyflawni ei dargedau ar gyfer tyfu.

Ychwanegodd Clive Davies, “Rydym yn hyderus bod ein targedau ar gyfer tyfu eleni’n realistig, er eu bod yn uchelgeisiol. Rydym yn gobeithio ychwanegu at ein gweithlu er mwyn helpu i ateb y galw sydd yng Nghymru am wasanaethau TG dibynadwy o safon.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am y gydnabyddiaeth y mae Telemat wedi’i chael, ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch info@telemat.co.uk