Datrysiadau Gwasanaeth TG
Tîm o ymgynghorwyr a thechnegwyr TG yw Telemat wedi’u hymrwymo i gadw eich busnes yn weithredol ac yn ddiogel.
Pa gymorth bynnag sydd ei angen ar eich busnes i barhau i redeg yn ddirwystr, gall y tîm eich helpu.
Gall ein harbenigwyr TG adnabod eich anghenion penodol a chynnig y datrysiad gorau i chi.
O weinyddion a rhwydweithiau, hyd at feddalwedd a’r Cwmwl, mae gennym arbenigwyr ardystiedig gallwch ymddiried ynddynt i roi cyngor synhwyrol ac onest i chi.
Ceblau
Diflas, ond angenrheidiol – gall y ceblau cywir amddiffyn eich rhwydwaith rhag amser segur a pherfformiadau siomedig.
Dyluniwyd ein rhwydweithiau yn ofalus i ddarparu:
cyflymder – mae rhwydweithiau cebl 10 gwaith yn gyflymach na Di-Wifr.
· diogelwch – yn fwy diogel rhag hacwyr.
· dibynadwyedd – lleihau’r risg o golli pecynnau a ffeiliau’n llai tebygol o gael eu llygru.
· trefnusrwydd – llai o annibendod a pherfformiad cyflymach o’r herwydd.
Byddwn yn eich helpu i ddewis a gosod rhwydwaith cyflym a diogel sy’n ateb gofynion eich busnes.
Gweinyddion
Sicrhewch fod eich caledwedd TG yn addas ar gyfer eich busnes.
Rydym yn cynnig ystod eang o weinyddion ar gyfer anghenion pawb. P’un a ydych chi eisiau caledwedd ar y safle neu weinydd sydd yn fwy addas ar gyfer y Cwmwl, gallwn drafod yr opsiynau â chi a’ch helpu i wneud y dewis cywir.
Beth bynnag fydd y dewis, bydd ein harbenigwyr yn gosod ac yn cyflunio eich gweinydd i sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn effeithiol.
Gwasanaethau Prosiect TG
Chwilio am weithiwr TG proffesiynol i helpu i drawsnewid eich busnes?
Pa bynnag brosiectau TG yr ydych yn eu cyflawni, gall ein tîm ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar eich busnes i sicrhau eu bod yn mynd rhagddynt yn esmwyth.
Mae ein harbenigwyr wedi’u hardystio mewn ystod enfawr o dechnolegau ac mae ganddynt brofiad mewn ystod eang o brosiectau, gweithrediadau a mudo system