Diogelwch TG Telemat
Gallwn helpu cwsmeriaid ennill Ardystiad Cyber Essentials
Ers nifer o flynyddoedd bellach mae bygythiadau seibrddiogelwch ar gynnydd. Mae hacwyr a throseddwyr eraill yn targedu busnesau o bob maint.
Mae data mewn perygl cynyddol o gael ei hacio, ei ddwyn neu ei ddinistrio. Mae busnesau o bob maint yn cael eu targedu gan droseddwyr. Canfu arolwg yn 2020 fod 51% o sefydliadau wedi’u taro gan ymosodiadau gwystl-feddalwedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Gall effaith toriad diogelwch fod yn drychinebus: gall atal mynediad at eich systemau a’ch data, arwain at gostau ariannol mawr yn ogystal â pheryglu enw da eich busnes. Felly, mae cymryd camau i ddiogelu systemau TG a data’n hanfodol
Gallwn eich helpu i gadw eich systemau a’ch data’n ddiogel.
Dechreuwch drwy gwblhau’r arolwg diogelwch i adnabod unrhyw broblemau ac i nodi datrysiadau posib.
Archwiliad Diogelwch
Darganfyddwch pa mor ddiogel yw eich busnes trwy gwblhau ein harchwiliad diogelwch AM DDIM.
Byddwn yn adolygu’r rhwydwaith, y meddalwedd a’r prosesau a pharatoi adroddiad yn nodi’r bylchau diogelwch a chynnig argymhellion ar sut i ddatrys unrhyw broblemau.
Mae ein harchwiliad diogelwch AM DDIM yn cynnig adolygiad llawn o’ch busnes er mwyn gweld ble yn union mae eich data yn cael ei gadw, pa mor agored ydyw i risg a’r camau gorau i’w gadw’n ddiogel.
Profi Diogelwch
Mae profion diogelwch yn defnyddio gwahanol ddulliau a thactegau i fesur pa mor effeithiol yw eich strategaeth seiberddiogelwch yn erbyn ymosodiad
Gall Telemat brofi eich systemau ac ymateb eich tîm i fygythiadau i nodi problemau a sicrhau bod eich systemau a’ch polisïau yn gweithio yn y byd go iawn.
Byddwn yn rhoi cynnig ar amrywiaeth o dechnegau i gael mynediad i’ch rhwydwaith i ddod o hyd i fylchau mewn systemau a sicrhau bod defnyddwyr yn gweithredu’n ddiogel – gan roi’r hyder i chi fod eich prosesau’n gadarn a bod eich busnes wedi’i ddiogelu..
Mae ein profion yn caniatáu nodi gwendidau a allai fel arall ganiatáu digwyddiad diogelwch yn gyflym, a gellir eu defnyddio hefyd i fodloni gofynion cydymffurfio i ddangos diogelwch systemau.
Siaradwch ag un o’n tîm i ddarganfod mwy