Cynnydd o 300% mewn achosion o ddwyn hunaniaeth

Cynnydd o 300% mewn achosion o ddwyn hunaniaeth ar-lein o gymharu â 2010

Yn ôl y cwmni gwirio credyd, Experian, cafodd 12 miliwn o ddarnau o wybodaeth bersonol eu cyfnewid ar-lein gan dwyllwyr yn ystod chwarter cyntaf 2012, sy’n gynnydd o 300% ers 2010.

Yn ôl y BBC, dywedodd Experian nad oedd llawer o bobl yn ymwybodol bod eu hunaniaeth wedi’i dwyn nes bod cwmnïau’n gwrthod rhoi cardiau credyd neu gontractau ffôn symudol iddynt.

Fel rheol, bydd y sawl y mae eu hunaniaeth wedi’i dwyn yn gweld bod cwmnïau’n gwrthod rhoi benthyciadau neu gardiau credyd iddynt (14%), bod dyledion yn cronni yn eu henw (9%), bod cwmnïau’n gwrthod rhoi contractau ffôn symudol iddynt (7%) a bod casglwyr dyledion yn eu herlid am ddyled nad ydynt wedi mynd iddi (7%).

Dywedodd Experian fod y cynnydd mewn achosion o ddwyn hunaniaeth wedi digwydd yn rhannol oherwydd bod pobl yn cofrestru ar gyfer nifer gynyddol o gyfrifon ar-lein.

Rhan o’r broblem hefyd yw bod gan lawer o ddefnyddwyr 26 o gyfrifon ar-lein, ar gyfartaledd, ond mai dim ond tua phum cyfrinair gwahanol y maent yn eu defnyddio.

Dylech newid eich cyfrineiriau’n rheolaidd a dylech sicrhau eu bod yn fwy cymhleth er mwyn ei gwneud hi’n anos i dwyllwyr eu darganfod.

 

Cynghorion er mwyn atal achosion o ddwyn hunaniaeth

  1. Dylech bob amser ddewis cyfrineiriau cryf ac unigryw, ac yn ddelfrydol dylent gynnwys cymysgedd o rifau a llythrennau a nodau arbennig megis ? neu !.
  2. Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio eich cyfrif mewn mannau cyhoeddus, yn enwedig ar gyfrifiaduron a rennir.
  3. Byddwch yn ofalus wrth rannu gwybodaeth bersonol, oherwydd gall y wybodaeth honno gael ei defnyddio i geisio cael mynediad i gyfrifon.
  4. Gosodwch raglenni atal firysau, ysbïwedd a maleiswedd, a sicrhewch fod y rhaglenni hynny’n cael eu diweddaru’n gyson.
  5. Sicrhewch fod hidlwyr gwe-rwydo eich porwr yn weithredol.
  6. Sicrhewch eich bod ar y wefan gywir cyn nodi gwybodaeth bersonol.

Mae methu â newid cyfrineiriau, neu ddefnyddio’r un cyfrinair ar gyfer sawl cyfrif, yn arfer peryglus oherwydd mae ymchwil wedi dangos ei bod yn haws i hacwyr gael mynediad i gyfrifon sy’n segur.

Cafodd defnyddwyr Yahoo eu cynghori gan gynrychiolwyr y diwydiant diogelwch i newid eu holl gyfrineiriau ar ôl i hacwyr dorri i mewn i weinyddion y cwmni a dwyn 453,000 o gyfrineiriau a oedd yn perthyn i gyfrifon segur yn bennaf.

Dywedodd Eric Doer, sy’n rheolwr rhaglenni grŵp i system gyfrifon Microsoft, fod achosion o danseilio diogelwch sy’n arwain at ddatgelu gwybodaeth am gyfrifon cwsmeriaid er mwyn i droseddwyr ei chamddefnyddio yn amlygu’r broblem graidd, sef bod pobl yn defnyddio’r un cyfrineiriau ar draws amryw wefannau.

“Mae hynny’n pwysleisio pwysigrwydd yr un hen gyngor ynghylch diogelwch, sef y dylai pobl ddefnyddio cyfrineiriau unigryw, oherwydd mae troseddwyr bellach yn gweithredu mewn modd mwy soffistigedig o lawer ac yn cymryd rhestr o enwau defnyddwyr a chyfrineiriau oddi ar un gwasanaeth ac yn ‘ailchwarae’ y rhestr honno yn erbyn systemau cyfrifon mawr eraill.”

“Pan fyddant yn dod o hyd i gyfrineiriau sy’n cyfateb i’w gilydd, maent yn gallu lledaenu eu camddefnydd y tu hwnt i’r system gyfrifon wreiddiol y gwnaethant ymosod arni.”

A oes gan eich cwmni gyfarwyddiadau clir i’r staff ynghylch sicrhau diogelwch eich TG, defnyddio TG yn briodol, defnyddio cyfrineiriau diogel, cadw copïau wrth gefn o ffeiliau a chofrestru’n briodol er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data? Ddim yn siŵr? Ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch info@telemat.co.uk i weld a allwn ni eich helpu