Defnyddiwch feddalwedd i leihau’r defnydd o bapur, amser a chostau.
Gwnewch Safiad. Rhowch bolisi ar waith i sicrhau eich bod chi a’ch staff yn glynu wrtho.
Gwnewch ddatganiad cryf am bolisi amgylcheddol y cwmni a’i arddangos yn y dderbynfa i bawb ei weld.
Anogwch staff i beidio â defnyddio argraffydd oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol.
Defnyddiwch gyfriflenni ariannol digidol ac ebostiwch eich gwaith papur.
Anogwch ailgylchu a’i wneud yn rhan allweddol o bolisi’r cwmni.
Marchnata di-bapur – edrychwch ar y posibiliadau o farchnata trwy ebyst a’r cyfryngau cymdeithasol.
Ystyriwch feddalwedd llofnod electronig!
Siaradwch â Telemat nawr am sut gall Microsoft 365 a meddalwedd eraill leihau’r defnydd o bapur.