Telemat – Amdanom Ni
Blaenoriaeth Tîm Desg Gymorth Telemat yw cynnig gwasanaeth cwsmer o’r safon uchaf. Rydym yn datrys 94% o alwadau o fewn 1 awr.
Rydym wedi darparu cefnogaeth a chyflawni gwasanaethau TG i fusnesau ar draws Cymru ers dros 20 mlynedd. Mae nifer fawr o’n cwsmeriaid heddiw yn gwsmeriaid ers y cychwyn cyntaf
Mae ein cleientiaid yn amrywio o fusnesau sy’n dechrau i fusnesau sydd wedi’u hen sefydlu, o elusennau i’r sector cyhoeddus. Rydym yn cynnig ystod llawn o gefnogaeth TG am brisiau rhesymol i ateb eich gofynion a’ch cyllideb chi.
Pa help bynnag sydd ei angen ar eich busnes i sicrhau effeithlonrwydd eich systemau TG – gallwn helpu
Rydym yn siarad eich iaith
Rydym yn cynnig ein gwasanaethau trwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Felly, gallwch drafod eich gofynion yn yr iaith o’ch dewis.
Mae gan ein technegwyr brofiad helaeth o gynllunio a gosod rhwydweithiau a gweinyddion yn ogystal â phrofiad o wasanaethau’r Cwmwl gan gynnwys mudo i’r Cwmwl.
Gyda help Telemat, ry’ ni wedi sicrhau Tystysgrif Cyber Essentials. Wrth fedru arddangos y logo ry’n ni’n dangos i’n cleientiaid ein hymrwymiad i gadw eu data yn gwbl ddiogel.
Micropharm, Ian Cameron, Prif Weithredwr
Adnabod y Tîm.
O’r alwad cyntaf, yr un fydd y technegwyr fydd yn eich helpu gyda’ch gofynion TG ar hyd y daith.
Mae pob aelod o’r tîm yn gyfarwydd â thechnoleg Microsoft, Apple, iOS ac Android, rhaglenni bwrdd gwaith a llu o gymwysiadau technolegol eraill.
Yn rhan o raglen dysgu a datblygu’r cwmni, mae pob aelod o staff yn dilyn cynllun datblygiad personol parhaol sy’n cynnwys arfarniad blynyddol o gyrhaeddiad yn ogystal â phroses o adnabod ac ymrwymo i gynlluniau hyfforddi addas i gwrdd ag amcanion y cwmni.
Rydym eisiau bod yn rhan o’ch tîm chi.
Rhowch eich ffydd ynom ni.
Yn 2013 dyfarnwyd achrediad o fri i Telemat, sef Nod Ymddiriedaeth CompTIA i Fusnesau TG, am ansawdd ein gwasanaeth a’n cynlluniau ar gyfer tyfu – un o bum cwmni yn unig a gafodd y gydnabyddiaeth hon yng Nghymru yn ystod 2013.