Datrysiadau y Rhyngrwyd Pethau
Pa fuddion y Rhyngrwyd Pethau (IoT) ydych chi’n eu colli?
Rydym yn dylunio ac yn gosod datrysiadau y Rhyngrwyd Pethau. Byddwn wrth ein bodd yn rhannu ein harbenigedd blaengar gyda chi.
Beth yw y Rhyngrwyd Pethau?
Mae y Rhyngrwyd Pethau (IoT) yn cyfeirio at unrhyw ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd sydd â’r gallu i gasglu data o bell trwy ddefnyddio synwyryddion, meddalwedd a thechnolegau eraill.
Mae technoleg y Rhyngrwyd Pethau yn rhoi cyfle i fusnesau neu drefi i gysylltu a’i gilydd a rhannu gwybodaeth am fonitro gweithrediadau. Mae’n helpu i reoli gwasanaethau ac allbynnau busnes yn haws.
Efallai bod y Rhyngrwyd Pethau yn newydd ac yn sgleiniog i lawer ond mae Telemat eisoes ar y blaen o ran dylunio a gosod systemau ar ran cwsmeriaid.
Gofynnwch i’r tîm sut gall y Rhyngrwyd Pethau fod o fudd i’ch busnes chi wrth ddatgloi arbedion cost ac effeithlonrwydd.
Mae busnesau’n croesawu y Rhyngrwyd Pethau oherwydd y buddion mae’n ei chyflwyno:
Effeithlonrwydd a chynhyrchiant: Mae gweithredu’n graff yn gwneud bywyd yn haws.
· Cyfleoedd busnes : Mae data da yn arwain at gyfleoedd gwerthu a hyrwyddo.
· Profiad cwsmer: gall busnesau gyflwyno mwy o ddewis i gwsmeriaid i fwynhau a’i wneud yn fwy tebygol y byddant yn dychwelyd.
· Symudedd a chwimder: Mae canoli data yn rhoi’r hyblygrwydd i symud yn gyflym yn ôl yr angen.
Cysylltwch a ni a darganfod sut gall y Rhyngrwyd Pethau wella eich busnes.
Datrysiadau wedi’u teilwra
yn deall bod IoT yn fwy na dim ond byngio synwyryddion a’u cysylltu
Wrth ddatblygu datrysiad IoT, yn sicr nid mater o adeiladu allan o focs yw hyn, ond ystyried y system gyfan a chwmpasu datrysiad cyflawn.
Nid yn unig rydym yn deall sut mae’r dyfeisiau diweddbwynt, eich synwyryddion a nodweddion y cymhwysiad yn integreiddio, ond rydym hefyd yn sicrhau bod y cysylltedd sylfaenol sy’n cludo’r data yn addas at y diben.
P’un a yw’ch gofynion yn gofyn am Borth IoT, Ethernet MPLS neu SIMs garw, bydd ein harbenigedd mewn dylunio a datblygu eich system IoT unigryw, yn sicrhau llif a diogelwch eich data trwy gydol ei daith.
Digon ohonom yn ceisio eich argyhoeddi o’n galluoedd! Darllenwch yr astudiaethau achos isod a siaradwch â ni i archwilio sut y gall IoT gynnig atebion arloesol i’ch anghenion busnes neu dref.
Astudiaeth Achos: Gweld sut mae IoT yn helpu ffermwyr ledled y byd i arbed 10,000 litr o laeth y mis