
CEFNOGAETH TG TELEMAT
Tîm profiadol o arbenigwyr TG.
Gallwch ymddiried yn ein tîm o arbenigwyr TG i gyflawni gwasanaeth hyblyg, dwyieithog dros y ffôn, ar ebost neu ar leoliad.
Di-Wifr
Wedi cael llond bol ar gysylltiad annibynadwy?
Mynnwch signal Di-Wifr cyflym, gwydn yn eich adeilad neu dref.
Cytundebau Cefnogaeth TG
Arbedwch ar amser segur gyda chefnogaeth TG fforddiadwy – ar yr union adeg sydd ei hangen.
Dewis o becynnau ar gyfer pob math o fusnes.
Microsoft 365
(Office 365 gynt)
Gallwch weithio’n fwy effeithiol gydag ebost diogel a hyblyg ac apiau sy’n gweithio’n ddi-dor ar, a thu hwnt, i’ch safle.

Astudiaeth Achos: Darllenwch sut mae Aberteifi wedi ymgysylltu ag ymwelwyr trwy Ddi-Wifr i Drefi
Di-Wifr i Drefi a LoRaWan
Mae ein datrysiadau yn rhoi cysylltedd hanfodol i chi ar draws eich cymuned fusnes.
Gall ein cefnogaeth LoRaWan ddatrys problemau gweithredol a rheolaeth trefi.
Darganfyddwch sut mae rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr â’r stryd fawr a chynyddu refeniw.

Cytundebau Cefnogaeth TG
Arbedwch ar amser segur gyda chymorth TG fforddiadwy – ar yr union adeg sydd ei hangen.
Rydym yn cynnig dewis o becynnau ar gyfer pob math o fusnesau gan gynnwys:
· Cefnogaeth ddiderfyn
· Cefnogaeth o bell
· Cefnogaeth Dalu wrth Fynd

Cefnogaeth TG O Bell
P’un a ydych chi’n gweithio o gartref neu’n teithio o le i le mae gan Telemat amrywiaeth o opsiynau fydd yn sicrhau eich bod yn medru cadw mewn cysylltiad â’ch swyddfa a’ch tîm.
O Ddatrysiadau Rheoli Gweithwyr i VPNs, gallwn gynllunio’r datrysiad gorau i gadw’ch tîm yn ddiogel ac yn gynhyrchiol.

Microsoft 365 (Office 365 gynt)
Ble bynnag ydych chi ac ar ba bynnag ddyfais rydych chi’n dymuno ei defnyddio sicrhewch yr ebost gorau sydd ar gael ac apiau Microsoft 365 pwerus.
Darganfyddwch sut y gallwch gael mynediad at eich ffeiliau unrhyw le unrhyw bryd, cysylltu â’ch tîm yn ddirwystr a pharhau â’ch gwaith o’r un man ac ar unrhyw ddyfais arall.

Seibrddiogelwch ac Ymgynghoriad TG
Cadwch eich busnes yn ddiogel rhag fygythiadau seibr gyda chefnogaeth a chyngor arbenigol.
Gallwn eich diogelu rhag ymdrechion gwe-rwydo, gynnal profion i sicrhau bod eich rhwydwaith yn ddiogel a thrwy’r rhaglen Cyber Essentials gallwn ddangos i’ch cwsmeriaid bod eu data yn ddiogel yn eich dwylo chi.

Di-Wfir i Fusnes
Mynnwch rwydwaith Di-Wifr cyflym a gwydn ar gyfer eich busnes. Rydym yn cynnig datrysiadau ar gyfer pob math o fusnesau – a phob datrysiad wedi’i gynllunio ar gyfer sicrhau cyswllt cyflym a diogel i’r we.- all designed to deliver fast internet for you and your customers safely.Mae ein cwsmeriaid yn gweithio ym meysydd:
Lletygarwch
· Twristiaeth
· Treftadaeth
· Gofal
· Amaeth
Rhesymau dros ddefnyddio Cefnogaeth TG Telemat
Cefnogaeth TG yn eich iaith chi

Boed yn Gymraeg neu Saesneg, drwy e-bost neu dros y ffôn – mae’n hawdd cyfathrebu â’r tîm.
Pan fyddwch chi’n barod i siarad â Telemat bydd Telemat yn barod i siarad â chi!