Cefnogaeth TG i Fusnes
Cytundebau cefnogaeth hyblyg TG ar gyfer eich busnes
‘Beth oedd cyfradd yr ymateb i alwadau gan gwsmeriaid mis diwethaf?’ – dyna’r cwestiwn cyntaf sy’n cael ei ofyn yn ein cyfarfodydd tîm misol.
Rydym yn falch iawn i nodi bod 94% o alwadau i’n desg gymorth yn cael eu datrys dros y ffôn a heb ymweliad â’r safle.
Cefnogaeth TG i Fusnes
Cefnogaeth TG sydd yn ateb gofynion eich busnes.
O bell yn unig.
Cefnogaeth ddiderfyn trwy ebost neu dros y ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00yb a 6.00yh.
Diderfyn
Cefnogaeth ddiderfyn o bell ac ar y safle trwy ebost neu dros y ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00yb a 6.00yh.
Talu wrth fynd
Cefnogaeth ddiderfyn trwy ebost neu dros y ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00yb a 6.00yh.
Mae ein prisiau yn seiliedig ar y math o becyn sydd ei angen, nifer y swyddfeydd sy’n cael eu cynnwys, a nifer y cyfrifiaduron a gweinyddwyr sydd wedi’u cynnwys yn y contract cymorth.
Mae’r pecynnau’n cynnwys:-
· arbedion sicr o gymharu â chymorth adweithiol.
· opsiynau prisio hyblyg wedi’u cynllunio i gwrdd â’ch gofynion.
· gwasanaeth technegwyr dwyieithog cyfeillgar, hawdd sgwrsio â nhw. Cysylltwch drwy ebost neu dros y ffôn i siarad gyda’r tîm desg gymorth.
· prosiectau untro gan gynnwys gosodiadau.
Darganfyddwch sut y gallwn helpu eich busnes i redeg yn ddirwystr.
“Fe wnaeth Telemat gynllunio’r system, cynnig cyngor da a chyflenwi datrysiad grêt ar gyfer ein cwsmeriaid a’r ardaloedd i ymwelwyr. Roedd y technegwyr – Adam a Myrfyn – yn broffesiynol iawn a chwblhawyd y rhan fwyaf o’r gwaith dros y ffôn neu o bell trwy’r cyfrifiadur. Byddwn yn argymell gwasanaeth Telemat heb os.”
Paul Bennet, Tŷ Mawr Country House, Brechfa