Cefnogaeth TG
Ein busnes ni yw cadw eich busnes chi yn weithredol, arlein ac yn ddiogel.
Gallwn eich helpu i redeg eich system TG yn effeithiol.
Gweithio o bell
Mae gweithio gartref wedi dod yn hollbwysig i weithrediadau busnes yn ddiweddar. Gan fod angen i gwmnïau sicrhau y gall timau gydweithio a rhannu gwybodaeth yn gynhyrchiol lle bynnag y bônt, mae cael systemau TG sy’n gallu ymdopi’n ddi-dor â staff sy’n gweithio o bell yn allweddol.
Mae Telemat wedi dangos y gallwn gadw ein cwsmeriaid i weithio’n effeithlon p’un a yw hynny’n ymwneud â chyfathrebu â chyflenwyr a chwsmeriaid neu â’u timau neu ryngweithio â’u staff swyddfa a chyfrifon.
Astudiaeth Achos: Gweld sut roedd LHP yn gallu gweithio’n gynhyrchiol trwy’r cyfyngiadau symud
Cymorth TG Busnes
Mae Telemat yn cynnig amrywiaeth o gytundebau lefel gwasanaeth TG busnes hyblyg i weddu i’ch busnes
Mae ein tîm dwyieithog ar gael trwy e-bost a ffôn i’ch helpu i ddatrys problemau yn gyflym ac yn ddi-boen – gan eich cadw’n gweithio’n effeithlon a lleihau amser segur.
Astudiaeth Achos: Mae’r Senedd wedi dewis Telemat i gefnogi eu haelodau am y 7 rhwyg diwethaf