Gwasanaeth Di-Wifr i Drefi
Yr unig wasanaeth Di-Wifr i drefi yng Nghymru sy’n cynnwys cefnogaeth farchnata.
Cynigiwch fynediad rhyngrwyd di-dor i ymwelwyr â’ch tref – beth bynnag yw cryfder signal y ffôn symudol.
Gallwn ddarparu mynediad cyflym Di-Wifr a datrysiadau wedi’u teilwra ar gyfer canol trefi, meysydd awyr, atyniadau i ymwelwyr, safleoedd gwersylla a mwy.
Bydd technegwyr arbenigol Telemat yn cydweithio â chi i adnabod a gosod y datrysiad gorau ar gyfer eich tref chi.
Byddwn hefyd yn dangos sut i gynyddu nifer yr ymwelwyr â’r stryd fawr a chynyddu refeniw trwy gasglu data effeithiol, ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i bwrpas marchnata.
Gofynnwch sut gall ein hymgynghoriaeth LoRaWan eich helpu i ddatrys problemau gweithredol a rheolaeth canol tref.
Datrysiadau ar gyfer amrywiaeth o leoliadau
Mae ein technoleg Di-Wifr i Drefi yn berffaith ar gyfer mannau cyhoeddus y tu hwnt i ganol y dref.
O feysydd awyr i feysydd carafanau, gallwn ddarparu gwasanaeth Di-Wifr sy’n caniatáu i’ch cwsmeriaid gysylltu â’r we o unrhywle ar eich safle.
Darparu Marchnata Effeithiol
Gallwch ddefnyddio’r data a gesglir i gefnogi strategaethau adfywio eich tref a chyfrannu at gynlluniau marchnata wedi’u teilwra i ddenu ymwelwyr i’r dref.
Byddwn yn dangos sut i wthio negeseuon gwerthu trwy’r cyfryngau cymdeithasol a thynnu sylw at ddigwyddiadau, siopau, bwytai, cynigion ayb.
LoRaWan

Mae ein technoleg Di-Wifr i reDfi yn berffaith ar gyfer mannau cyhoeddus y tu hwnt i ganol y dref.
O feysydd awyr i feysydd carafanau, gallwn ddarparu gwasanaeth Di-Wifr sy’n caniatáu i’ch cwsmeriaid gysylltu â’r we o unrhywle ar eich safle.
Darparu Marchnata Effeithiol
Gallwch ddefnyddio’r data a gesglir i gefnogi strategaethau adfywio eich tref a chyfrannu at gynlluniau marchnata wedi’u teilwra i ddenu ymwelwyr i’r dref.
Byddwn yn dangos sut i wthio negeseuon gwerthu trwy’r cyfryngau cymdeithasol a thynnu sylw at ddigwyddiadau, siopau, bwytai, cynigion ayb.
LoRaWan
Gofynnwch am fanteision LoRaWAN ar gyfer eich busnes neu dref. Gallwch sicrhau gwell signal Di-Wifr, arbed ar y defnydd o ynni a monitro lleoliadau penodol.
Mae’r system o gasglu data yn hawdd i’w defnyddio ac yn ffordd werthfawr o ddod o hyd i wybodaeth am weithgareddau mewn lleoliadau penodol. Gallwch ei defnyddio i fireinio gweithgareddau marchnata, gwella gwasanaethau ac ymgysylltu â chwsmeriaid