Microsoft 365

OFFICE 365 GYNT

Gyda 365 gallwch

gael mynediad i ffeiliau, cadw mewn cysylltiad â’ch tîm a pharhau â’ch gwaith o’r un man ac ar unrhyw ddyfais arall.

weithio’n fwy effeithiol gydag ebost diogel ac apiau sy’n gweithio’n ddi-dor ar, a thu hwnt, i’ch safle

gael cefnogaeth gan dîm Telemat i gynllunio’r system orau ar gyfer eich busnes, fudo o’ch system bresennol a chyngor ar sut i gael y gorau o’r offer.

I weld beth all Microsoft 365 wneud i chi dechreuwch gydag adolygiad TG rhad ac am ddim.

Rhowch hwb i gynhyrchiant.

Darganfyddwch sut y gallwch weithio’n fwy effeithiol gydag ebost hyblyg a diogel ac apiau sy’n gweithio’n ddi-dor ar, a thu hwnt, i’ch safle.

Gweithio ar y cyd.

Gallwch weithio ar y cyd ar draws amryw o leoliadau ar ffeiliau a dogfennau cyfredol a gweld newidiadau wrth iddynt ddigwydd.

Trwy ddefnyddio Microsoft Teams gallwch gydweithio’n hwylus wrth rannu syniadau, trafod newidiadau a dod o hyd i ddogfennau a ffeiliau.

Diogelwch

Mae diogelwch integredig Microsoft 365 yn amddiffyn dyfeisiau a data rhag bygythiadau seibr.

Mae’r pecyn diogelwch yn cynnwys offer syml ar gyfer rheoli defnyddwyr a dyfeisiau.

Cost-effeithiol

Mae Microsoft 365 yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau i ateb gofynion defnyddwyr unigol ac felly’n arbed ar eich costau TG yn ogystal â hybu cynhyrchiant.

Mae gosod Microsoft 365 a’i redeg o ddydd-i-ddydd yn syml – mae’n arbed amser ac yn lleihau risgiau diogelwch.

Rhowch hwb i gynhyrchiant.

Darganfyddwch sut y gallwch weithio’n fwy effeithiol gydag ebost hyblyg a diogel ac apiau sy’n gweithio’n ddi-dor ar, a thu hwnt, i’ch safle.