Y defnydd o’r rhyngrwyd yn parhau i gynyddu

Mae UKOM, sef y sefydliad sy’n mesur cynulleidfaoedd ar-lein yn y DU, wedi llunio ei ffigurau ar gyfer y defnydd a wnaeth pobl Prydain o’r rhyngrwyd yn ystod mis Ebrill 2010, gan eu cymharu â’r ffigurau ar gyfer mis Ebrill 2007.

Y prif ganfyddiad yw bod pobl Prydain erbyn hyn yn treulio 65% yn fwy o amser ar-lein. Maent mewn gwirionedd yn treulio cyfanswm o 884 miliwn o oriau ar-lein, o gymharu â 536 miliwn o oriau dair blynedd yn ôl.

Mae’r amser sy’n cael ei dreulio’n gwneud gwahanol weithgareddau ar-lein hefyd wedi newid yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn.

Wrth gwrs, y newid mwyaf nodedig yw’r defnydd a wneir o rwydweithiau cymdeithasol a blogiau. Nid yw hynny’n syndod o gofio bod blogio a gwefannau megis Facebook a Twitter wedi dod mor boblogaidd.

Yn 2007 roedd y sector hwn yn cyfrif am 9% o’r amser net yr oedd pobl y DU yn ei dreulio ar-lein, ac mae’r ffigur hwnnw wedi cynyddu’n sylweddol i 23%.

Ar ôl rhwydweithio cymdeithasol, y ddau weithgaredd nesaf y mae pobl yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser ar y we’n eu gwneud yw ebostio a chwarae gemau ar-lein, sy’n cael canran o 7% yr un.

Gwelwyd cwymp sylweddol yn yr amser y mae pobl yn ei dreulio’n anfon negeseuon gwib, oherwydd y cynnydd ym mhoblogrwydd rhwydweithio cymdeithasol, ac mae’r ganran berthnasol wedi gostwng o 14% i 5% yn unig.

Er hynny, mae nifer y bobl sy’n ebostio wedi parhau’n gyson er gwaethaf y ffaith bod pobl yn cyfathrebu drwy wefannau megis Facebook.

Meddai llefarydd ar ran UKOM: “Er gwaethaf y cynnydd sylweddol yn yr amser y mae pobl yn ei dreulio ar-lein a’r ffaith bod mwyfwy o wefannau a gwasanaethau ar-lein ar gael, mae un peth wedi parhau’n gyson, sef bod cyfran helaeth o amser pobl ar-lein yn cael ei dreulio’n cyfathrebu, yn rhwydweithio ac yn chwarae gemau. Dyma’r tri phrif weithgaredd sy’n golygu bod y rhyngrwyd yn gyfrwng a ddefnyddir yn helaeth.”

Mae ffigurau UKOM hefyd yn cyfeirio at y ffaith mai’r categori sydd â’r ganran isaf yw’r un sy’n ymwneud ag edrych ar gynnwys i oedolion ar y we, sy’n cael canran o 2.7% yn unig. Mae hynny’n llai na’r amser a gaiff ei dreulio’n edrych ar wefannau newyddion ar-lein, a oedd yn cyfateb i 2.8% o’r amser net.

Mae’n debyg bod hynny’n chwalu’r myth mawr ynghylch y rhyngrwyd, sef mai’r unig beth y mae pobl yn ei wneud ar y rhyngrwyd yw edrych ar bornograffi.

Naill ai hynny, neu mae’n profi bod pobl yn fwy parod i gyfaddef eu bod yn edrych ar wefan newyddion y BBC na chyfaddef eu bod yn edrych ar luniau drwg. Tybed pa un sy’n wir?

 

I gael rhagor o wybodaeth am y defnydd a wneir o’r rhyngrwyd, ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch info@telemat.co.uk