Manteision y Cwmwl?

Mae nifer o resymau dros ddewis y Cwmwl:

Accessibility:

Trwy ddefnyddio’r un meddalwedd â sefydliadau mawr, mae cyfrifiadura Cwmwl yn galluogi perchnogion busnes a defnyddwyr gael mynediad at ffeiliau o unrhyw le unrhyw bryd. Mae’r data bob amser yn gyfredol sy’n hwyluso’r gwaith o rannu ffeiliau rhwng defnyddwyr.

Cost sefydlu isel:

Mae gwasanaethau’r Cwmwl yn cael eu prynu ar sail “fesul defnyddiwr”, sy’n golygu gallwch brynu mynediad ar gyfer defnyddwyr ychwanegol yn ôl yr angen. Gallwch danysgrifio i wasanaethau TG sy’n cael eu cynnal gan drydydd parti – gan amlaf trwy dalu tanysgrifiad misol yn seiliedig ar nifer y cyfrifiaduron personol sy’n cyrchu’r feddalwedd. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys ebost, systemau rheoli cwsmer a thaenlenni.

Keeping control:

Mae cyfrifiadura Cwmwl yn caniatau i chi ganolbwyntio ar eich busnes yn hytrach na gwastraffu amser ar y problemau sy’n codi wrth redeg systemau TG yn y gweithle. Gall ddefnyddio’r Cwmwl gynyddu cynhyrchiant trwy ddileu’r angen am anfon ffeiliau yn ôl ac ymlaen rhwng defnyddwyr.

Flexibility:

Mae cyfrifiadura Cwmwl yn rhoi’r rhyddid i chi weithio o unrhyw ddyfais gysylltiedig ynghyd â’r gallu i gynyddu’r storfa yn ôl yr angen. Os ydych chi’n defnyddio ffôn clyfar, tabled, Mac neu PC, mae mynediad i feddalwedd a ffeiliau ar flaen eich bysedd

Diogelwch ychwanegol:

Os digwydd rhywbeth i galedwedd eich cyfrifiadur mi fydd mynediad at eich ffeiliau yn bosib o hyd. Mae data yn cael ei ôl-gopȉo a’i gadw ar nifer o gyfrifiaduron. Felly, os oes un cyfrifiadur ar stop gallwch gyrchu’ch ffeiliau ar beiriant arall.