10 o dueddiadau technolegol ym myd y gyfraith.
Mae yna nifer o dueddiadau nodedig a allai erydu’r traddodiad cyfreithiol o fewn y farchnad. Rydym wedi casglu nifer o rhagolygon ac arsylwadau o amryw o ffynonellau ar y newidiadau technolegol sy’n digwydd yn y Proffesiwn Cyfreithiol.
- Oriawr Apple
Bydd Oriawr Apple yn parhau i ennill poblogrwydd wrth i gyfreithwyr ddysgu ffyrdd newydd ac amrywiol i ychwanegu at eu harferion gwaith. Er enghraifft, a ydych wedi ystyried y posibiliadau o gael eich cydweithiwr i anfon negeseuon atoch trwy’ch oriawr tra fyddwch yn holi llygad-dyst?
- Cynnyddu’r gallu i storio gwybodaeth trwy Cloud
Mae’r cyfryngau wedi newid eu safbwynt am Dropbox yn y misoedd diwethaf. Serch hynny, rydym o’r farn y bydd cyfreithwyr a busnesau bach eraill yn mabwysiadu Dropbox, Office 365 a Google Apps yn lle’r hen weinydd traddodiadol oherwydd y manteision sydd ganddynt i’w cynnig i’r defnyddiwr.
- Dau o dueddiadau gwrthgyferbyniol y flwyddyn
- Y cynnydd yn argaeledd a’r defnydd o feddalwedd Cloud fel gwasanaeth (SaaS) e.e. Osprey Legal Cloud (http://ospreylegalcloud.co.uk/)
A
- Y cynnydd yn y sensitifrwydd i fygythiadau seiber a diogelwch data.
Mae’r ddau dueddiad yn cyrraedd pwynt trothwy o ran sylw a gweithgarwch a heb ffyrdd resymol i sefydliadau i fanteisio ar y cwmwl tra’n rheoli risg. Peidiwch â disgwyl penderfyniad i wella ar hyn yn ystod 2016 oherwydd y dulliau diogelwch sydd gan gwmnïau eisoes,yr ansicrwydd a natur gweithredu achlysurol y byd cyfreithiol. Gyda lwc, byddwn yn gweld camau ystyrlon tuag at cyfrifiadura cwmwl ar draws y diwydiant a safon diogelwch data yn y dyfodol agos.
- Y Gyfraith Gyfrifiannol
Mae hwn yn offeryn awtomataidd ar gyfer dadansoddiad cyfreithiol a ddefnyddir yn gyffredin gan gwmnïau cyfreithiol. Bydd y gangen hon o’r gyfraith yn parhau i dyfu ynghynt ac ynghynt. Mae datblygiadau enfawr technoleg yn galluogi cyfreithwyr i ganolbwyntio ar wasanaethu fel cynghorwyr a ‘concierges’ i’w cleientiaid. Bydd hyn hefyd yn eu galluogi i fod yn fwy effeithlon wrth ddarparu gwasanaethau cyfreithiol.
- Cwmni Cyfreithiol fel Gwasanaeth (Law Firm as a Service – LFaaS) a’r model
‘Gwybodaeth-fel-gwasanaeth cyfreithiol’
2016/17 yw’r cyfnod lle y bydd Cwmnïau Cyfreithiol fel Gwasanaeth (LFaaS) yn dod yn fwy-fwy gyffredin. Bydd cwmnïau mawr a bach yn dechrau darparu ystafelloedd yn llawn o offer awtomeiddio ar gyfer cynghori wedi eu cynllunio o amgylch ddeddfwriaeth benodol neu ar gyfer cleientiaid o fewn diwydiannu penodol. Bydd y cwmnïau yn gwerthu mynediad diderfyn i’r offer hyn ar gyfraddau tanysgrifio unffurf, neu yn eu rhoi i’w cleientiaid mwyaf fel gwasanaethau gwerth ychwanegol.
Mae ymgynghorwyr marchnata’n rhagweld y bydd pwynt trothwy’n cyrraedd lle bydd arferion cyfreithiol arloesol yn ymuno â’r rhai hynny sydd yn mabwysiadu’r model ‘Gwybodaeth-fel-gwasanaeth. Bydd gwaith ar y lefel isel yn fwy proffidiol wrth ddarparu gwybodaeth gyfreithiol i gleientiaid drwy lwyfannau ar-lein yn seiliedig trwy danysgrifio.
Bydd y model hwn yn galluogi cwmnïau cyfreithiol i ateb rhai o gwestiynau eu cleientiaid am ran fach o’r gost o gyfweliad wyneb-yn wyneb tra’n aros yn broffidiol. Mae hefyd yn eu galluogi i ddefnyddio dadansoddiadau ac offer delweddu i drosglwyddo gwybodaeth gynhwysfawr i’w cleientiaid.
- Llwyfannau cyfathrebu diogel wedi eu haddasu.
Mae busnesau’n defnyddio apps negeseuon i gyfathrebu’n mewnol wrth i dechnoleg amgryptio barhau i wella. Mae hyn yn sicrhau bod y wybodaeth a gyfnewidiwyd yn fwy diogel.
- Blwyddyn trychineb diogelwch seiber?
Eleni o bosib bydd y flwyddyn y gallai cwmnïau cyfreithiol â phroffil uchel wynebu trychineb diogelwch seiber ddifrifol. Gallai hyn danlinellu’r ymdrechion annigonol i ddiogelu gwybodaeth llawer o gleientiaid.
Diogelwch yn canolbwyntio ar gwmnïau.
Bydd diogelwch yn parhau i fod yn allweddol ar gyfer y rhan fwyaf o gwmnïau. Bydd bygythiadau diogelwch seiber yn parhau i dyfu o ran grym ac o ble y maent yn tarddu. Gallai hyn achosi perygl gwirioneddol i gwmnïau cyfreithiol ta beth yw maint y cwmni.
- Trosedd diogelwch data cyhoeddus
Rhagwelir y bydd o leiaf un o’r 200 o gwmnïau cyfreithiol fwyaf yn dioddef trosedd data mawr iawn mewn modd cyhoeddus iawn a fydd yn peryglu gwybodaeth gyfrinachol cleientiaid a gweithwyr. O ganlyniad, bydd y diwydiant cyfreithiol yn cael ei orfodi i gymryd stoc o’i ddiogelwch, yswiriant a chyfathrebu. Mae cleientiaid yn gyffredinol yn galw am gwmnïau i ddangos eu bod yn paratoi ar gyfer pob math o drosedd diogelwch seiber.
- Swyddfeydd cyfreithiol rhithiol.
Bydd y nifer o gwmnïau cyfreithiol un-person a bach yn sy’n darparu swyddfeydd rhithiol yn cynyddu’n sylweddol. Gan fod y syniad yn cael ei gydnabod ac yn cael ei dderbyn yn raddol, bydd cynnydd yn nifer y cyfreithwyr â fydd yn cofleidio y model rhithiol oherwydd ei effeithlonrwydd o ran cost a hyblygrwydd.