Arbenigedd unigryw cwmni gwledig yn ennill contract dros Gymru gyfan

Yn ddiweddar mae Telemat, sef tîm arbenigol Antur Teifi ym maes TG, wedi ennill contract i ddarparu cymorth TG i bob un o Aelodau’r Cynulliad yng Nghymru. Bydd tîm Telemat yn cynorthwyo Adran TG y Cynulliad Cenedlaethol drwy ddarparu cymorth yn y fan a’r lle i ymdrin â’r offer TG a ddefnyddir gan y staff ac Aelodau’r Cynulliad ym mhob un o’r swyddfeydd sydd mewn etholaethau ledled Cymru.

Mae Clive Davies, Rheolwr Gweithrediadau Telemat, o’r farn bod deall anghenion unigryw defnyddwyr TG mewn ardaloedd gwledig ynghyd â gallu’r cwmni i addasu ei arferion gweithio i anghenion cleientiaid wedi bod yn ffactor o bwys yn y llwyddiant hwn y mae Telemat wedi’i brofi’n ddiweddar.

Meddai, “Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y contract hwn. Mae’n tystio i allu ein tîm i ddarparu gwasanaethau TG dibynadwy mewn lleoliadau ledled Cymru. Mae hynny wedi’i gydnabod hefyd gan y ffaith ein bod wedi ennill achrediad y rhaglen CompTIA Accredit UK Trustmark+ yn ddiweddar – am yr ail flwyddyn yn olynol.”

Mae’r rhaglen CompTIA Trustmark yn cydnabod gwaith a phrosesau cyfredol ac mae hefyd yn hybu gwelliant parhaus ac arweiniad i fusnesau er mwyn ysgogi twf. Cafodd yr achrediad ei ddyfarnu i Telemat oherwydd gallu’r cwmni i ddatblygu a darparu rhaglenni a gwasanaethau TGCh ardderchog i’w gwsmeriaid, a bydd yn allweddol o safbwynt helpu’r busnes i gyrraedd ei darged, sef sicrhau ei fod yn tyfu 20% yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Meddai Clive, “Mae sicrhau bod y gweithdrefnau cywir ar waith yn galluogi’r tîm i berfformio’n gyson a chael y wybodaeth ddiweddaraf bob amser am ddatblygiadau newydd er mwyn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid – y mae rhai ohonynt wedi bod gyda ni ers bron 20 mlynedd.”

Mae Telemat yn rhan o fenter gymdeithasol Antur Teifi, ac mae’n darparu gwasanaethau TG i sefydliadau sy’n amrywio o fusnesau hollol newydd i fusnesau mawr sydd wedi ennill eu plwyf, elusennau a’r sector cyhoeddus.

Mae’r ffaith bod gan Telemat 15 o swyddfeydd ledled y canolbarth a’r gorllewin yn golygu ei fod mewn sefyllfa dda i ymateb yn sydyn i anghenion brys Aelodau’r Cynulliad o ran TG.

Meddai Clive Davies wedyn, “Rydym hefyd yn falch ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth hollol ddwyieithog. Mae’n bwysig i ni bod Aelodau’r Cynulliad – a phob un o’n cwsmeriaid – yn cael cyfle i drafod eu hanghenion yn eu dewis iaith. Bydd rhoi ein sgiliau TG a’n sgiliau ieithyddol ar waith ledled Cymru yn brofiad cyffrous iawn.”