Lansio astudiaeth band eang 3G Ceredigion

Yr wythnos hon lansiwyd y prosiect cymorth band eang symudol, a grëwyd ar y cyd gan dîm Cynnal y Cardi Cyngor Sir Ceredigion, THREE (y darparwr rhwydwaith ar gyfer dyfeisiau symudol) a gwasanaeth cymorth TG Telemat.

Cafodd cyfranogwyr o bob cwr o Geredigion, nad oes modd iddynt gael band eang digonol drwy eu llinell ffôn, lwybryddion 3G MiFi yn rhan o astudiaeth am flwyddyn er mwyn arddangos y gwasanaeth band eang 3G amgen sydd ar gael ar draws Ceredigion a thu hwnt ac er mwyn ymchwilio i’r gwasanaeth hwnnw.

Gan ddefnyddio’r llwybryddion, bydd y prosiect yn darparu gwybodaeth werthfawr am y manteision y mae’r cyfranogwyr wedi’u mwynhau o allu bod ar-lein.

Yn ogystal, mae’n fodd i addysgu’r gymuned wledig ynghylch y technolegau band eang amgen sydd ar gael erbyn hyn.

Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno gan OFCOM a darparwyr rhwydweithiau ar gyfer dyfeisiau symudol, felly bydd band eang 3G yn datblygu’n opsiwn prif ffrwd ymarferol yn lle band eang drwy’r llinell ffôn mewn ardaloedd gwledig.

Bydd Telemat wrth law i gynorthwyo’r cyfranogwyr wrth iddynt ymgyfarwyddo â’r dechnoleg hon.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cymerwch gip ar wefan Cynnal y Cardi neu ewch i wefan cwmni THREE i gael rhagor o wybodaeth am ei lwybryddion MiFi.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch info@telemat.co.uk