Bygythiadau i seiberddiogelwch yn cynyddu

Mae astudiaeth yn dangos bod busnesau yn y DU a’r Unol Daleithiau yn disgwyl i’r risg o seiberfygythiadau i’w busnes gynyddu’n sylweddol yn ystod 2014.

Yn ôl yr astudiaeth gan Kaspersky Lab a B2B International, yr Unol Daleithiau a’r DU yw’r ddwy wlad sy’n poeni fwyaf am yr effaith y bydd seiberfygythiadau yn ei chael ar ddyfodol eu busnesau.

Mae dros hanner yr ymatebwyr yn yr Unol Daleithiau a’r DU o’r farn y bydd seiberfygythiadau i fusnesau’n parhau i gynyddu.

Bu’r astudiaeth ynghylch risgiau byd-eang i ddiogelwch TG yn gofyn am farn dros 3,000 o uwch-swyddogion proffesiynol ym maes TG ar draws 22 o wledydd ynghylch y prif broblemau sy’n wynebu’r diwydiant.

“Nid yw’n syndod bod cwmnïau mewn gwledydd datblygedig yn poeni gymaint am y risgiau sy’n gysylltiedig â seiberddiogelwch yn y dyfodol agos,” meddai Alexander Erofeev, Prif Swyddog Marchnata Kaspersky Lab. “Mae busnesau cyfoes yn dibynnu ar filoedd o ddyfeisiau, yn y swyddfa ac wrth deithio o le i le, ac mae’n hanfodol bwysig bod y seilwaith hwnnw’n cael ei ddiogelu rhag bygythiadau allanol. Gall seiberdroseddwyr achosi niwed difrifol i gwmni mewn ychydig funudau’n unig – niwed a allai olygu bod y cwmni’n colli arian, bod data sensitif yn cael ei ddatgelu, bod diogelwch yn cael ei danseilio a bod problemau cyfreithiol difrifol posibl yn cael eu hachosi.”

Gan fod cwmnïau yn yr Unol Daleithiau a’r DU yn poeni am seiberfygythiadau yn y dyfodol, seiberddiogelwch yw’r brif broblem eisoes i fyd busnes mewn rhai gwledydd.

Dangosodd yr arolwg mai problemau’n ymwneud â seiberddiogelwch yw’r prif broblemau sy’n wynebu dros 25% o fusnesau yn Hong Kong, Taiwan a Tsieina.

Y mis hwn cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, fanylion am ganolfan ragoriaeth newydd a fydd yn cynnig cyngor i wledydd eraill ynghylch seiberddiogelwch.

Bydd y Ganolfan Adeiladu Capasiti Seiberddiogelwch Byd-eang yn cael £2 filiwn gan y llywodraeth bob blwyddyn. Bydd wedi’i lleoli yn un o’r wyth prifysgol a ddewiswyd ym mis Ebrill i dderbyn statws ‘Canolfan Rhagoriaeth Academaidd ym maes Ymchwil i Seiberddiogelwch’.

Bydd yn ceisio dod â syniadau llywodraethau, ymchwilwyr, melinau trafod a’r sector preifat ynghyd, gan fod y DU am chwarae rhan ganolog yn y gwaith cydlynu rhyngwladol sy’n ymwneud â seiberfygythiadau.

 

Cymorth i sicrhau seiberddiogelwch

“Bydd seiberofod yn ddimensiwn newydd mewn gwrthdaro yn y dyfodol. Nid oes gan lawer o wledydd y trefniadau diogelu na’r adnoddau hyd yn hyn i wrthsefyll seiberymosodiad a noddir gan wladwriaeth,” meddai Hague.

“Os na ddown ni o hyd i ffyrdd o gytuno ar egwyddorion er mwyn cymedroli ymddygiad o’r fath a delio â’i ganlyniadau, gallai rhai gwledydd weld eu bod yn agored i fygythiad strategol cwbl newydd: gwladwriaethau gelyniaethus sy’n eu bygwth am arian, i bob pwrpas.

“Heddiw, mae’n haws nag erioed i rywun fod yn seiberdroseddwr. Erbyn hyn mae’n bosibl prynu, am gyn lleied â £3,000, feddalwedd maleisus sy’n barod i’w ddefnyddio ac sydd wedi’i gynllunio i ddwyn manylion banc, ac mae’n bosibl cael mynediad i linell gymorth dechnegol 24 awr y dydd hefyd.

“Rwy’n gweld tystiolaeth yn aml o ymosodiadau bwriadol a drefnwyd ar eiddo deallusol a rhwydweithiau’r llywodraeth yn y Deyrnas Unedig.”

Esboniodd Hague sut yr oedd diogelwch “cwmni rhyngwladol a oedd wedi’i ddiogelu’n dda” wedi’i danseilio gan “is-gwmni tramor”.

Defnyddiodd hacwyr broses ‘gwe-drywanu’ i danseilio diogelwch rhwydwaith y grŵp hwnnw, gan ddwyn “miloedd ar filoedd o gyfrineiriau”, gan gynnwys cyfrineiriau gweinydd ffeiliau’r rhiant-gwmni. “O’r gweinydd ffeiliau hwnnw, bu modd iddynt ddwyn 100GB o eiddo deallusol sensitif y rhiant-gwmni, sy’n cyfateb yn fras i ddogfen sy’n cynnwys 20 miliwn o dudalennau A4,” ychwanegodd yr Ysgrifennydd Tramor.

Cyhoeddodd Hague y newyddion am y ganolfan yn y Gynhadledd ynghylch Seiberofod yn Budapest, lle bu’n siarad am yr angen i greu seiberlinellau brys rhwng llywodraethau er mwyn rhannu gwybodaeth am fygythiadau, er na alwodd yr Ysgrifennydd Tramor am gytuniad newydd. Galwodd yn hytrach am gonsensws rhyngwladol ynghylch rheolau er mwyn arwain ymddygiad ar y rhyngrwyd yn y dyfodol.

Yn ogystal datgelodd y Farwnes Ashton, Pennaeth Materion Tramor yr UE, fod yr UE yn paratoi i gyhoeddi ei strategaeth ynghylch seiberddiogelwch yn ystod y misoedd nesaf.

Ychwanegodd Francis Maude, y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet: “Dim ond rhan o’r ateb fydd trefniadau i’n diogelu ein hunain rhag seiberfygythiadau. Mae’n bwysig sicrhau bod y sawl rydym yn cysylltu â nhw’n ddiogel hefyd.

“Gan fod dros 2 biliwn o bobl ar-lein erbyn hyn, ac y disgwylir y bydd biliynau’n rhagor yn ymuno â nhw yn ystod y degawd nesaf, mae gan bob un ohonom fudd yn y rhyngrwyd a rhaid i bob un ohonom fuddsoddi yn ei dyfodol llwyddiannus.

“Po gyntaf y gall capasiti seiberddiogelwch dyfu’n fyd-eang, cynta’n y byd y bydd ein cymuned ar-lein yn dod yn fwy diogel.”

Mae gan y glymblaid £650 miliwn ar gyfer mynd i’r afael â seiberdroseddau, yn ogystal â’r buddsoddiad a oedd wedi’i wneud eisoes pan gyhoeddwyd y cyllid ychwanegol. Mae wedi parhau i gyfrannu arian i amryw fentrau.

Os oes angen arfarnu eich system TG er mwyn gwirio ei diogelwch, gall Telemat eich helpu. Ffoniwch ni i siarad ag un o’n technegwyr ynghylch cael gwiriad iechyd.

Posted in Dim Categori