Beth yw’r Cwmwl?

Mae technoleg y Cwmwl wedi bodoli ers rhai blynyddoedd.  Wrth i gostau leihau mae ei photensial yn cael ei gydnabod yn y sector busnesau bach a chanolig. Mae nifer o gwmnïau byd-eang eisoes yn storio eu hadnoddau’n ddiogel yn y Cwmwl.