Beth yw Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol?

Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn set o reolau’r UE ar ddiogelu data a phreifatrwydd sy’n berthnasol ym Mhrydain. 

Dyma rai pwyntiau i’w hystyried:

Gweithredu effeithiol:

Pan fydd sawl defnyddiwr yn cysylltu â’r system Ddi-Wifr ar yr un pryd, gall achosi problemau logistaidd i’ch darparwr TG wrth geisio rheoli diogelwch y rhwydwaith.

Security:

Mae’n bwysig i’r technegydd TG sy’n eich cefnogi sicrhau nad yw’r rhwydwaith yn agored i ddefnyddwyr amghymwys. Mae eich cronfa ddata yn cynnwys data cyfrinachol yn ogystal â gwybodaeth bwysig am eich busnes, eich gwesteion neu gwsmeriaid. Bydd methu â diogelu rhain yn eich gadael yn agored i ladrad a hacwyr. Er na ellir atal gollyngiadau yn gyfan gwbl mae sicrhau bod polisïau diogelwch priodol yn eu lle yn dangos eich bod wedi dilyn llwybr diwydrwydd dyladwy.

Misuse: 

Gofid arall i chi fel perchennog busnes yw’r posibilrwydd bod eich staff yn camddefnyddio’r rhyngrwyd yn ystod oriau gwaith a phe bae aelod o staff yn defnyddio safle band llydan iawn, fe allai arafu’r rhyngrwyd gan effeithio ar brofiad eich cwsmeriaid wrth ddelio â’r cwmni.