Gall Telemat adolygu diogelwch eich rhwydwaith a pharatoi adroddiad ar y canfyddiadau. Bydd yr adroddiad yn nodi bylchau diogelwch ac yn cynnig argymhellion ar sut i ddiogelu eich system a all gynnwys gosod un o’r canlynol:
Meddalwedd gwrth-feirws:
Rhaglen sydd wedi’i chynllunio i chwilio am firysau a meddalwedd maleisus eraill megis mwydod, trojannau, meddalwedd hysbysebu a mwy.
Mur Gwarchod:
Darn o feddalwedd neu galedwedd sydd wedi’i gynllunio i atal pobl anghymwys rhag cael mynediad i gyfrifiadur unigol neu rwydwaith.
Diogelwch Di-Wifr:
Rhoi’r mesurau mwyaf effeithiol ar waith er mwyn diogelu eich rhwydwaith a’ch data.