ANTUR CYMRU yn cefnogi’r sector cyfreithiol yng Nghymru wrth i ymosodiadau seiber ar gwmnïau cyfreithiol gynyddu.

Kevin Harrington, Rheolwr Cefnogaeth TG Telemat.

ANTUR CYMRU yn cefnogi’r sector cyfreithiol yng Nghymru wrth i ymosodiadau seiber ar gwmnïau cyfreithiol gynyddu.

Yn ddiweddar, mae Telemat TG, rhan o Fenter Antur Cymru, wedi bod yn codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch seiber ymysg cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithol.   Mae lladrad ariannol a hunaniaeth, colli cleientiaid a chosbau rheoleiddiol ymhlith y materion sy’n achosi pryder.

Mewn partneriaeth â Busnes Cymru, mae Kevin Harrington, Rheolwr Datblygu Busnes Telemat, yn cynnig arweiniad a chyngor i fusnesau, ynghyd â chwblhau archwiliadau diogelwch.  Mae hefyd wedi paratoi fideo yn trafod y pwyntiau allweddol o ran diogelwch seiber ac yn son am y gwasanaeth ardystio ac ymgynghori a ddarperir gan Telemat.

Yn ôl Kevin “o gofio’r technegau soffistigedig a’r triciau sy’n cael eu defnyddio, mae’n mynd yn fwyfwy anodd i amddiffyn busnesau rhag hacwyr.

“Mae gwybodaeth cwmnïau cyfreithiol yn gyfrinachol a sensitif felly gall ymosodiad seiber fod yn hynod niweidiol, nid yn unig yn ariannol ond hefyd i enw da’r cwmni.

Trwy weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas y Cyfreithwyr a thrwy weithio ochr-yn-ochr â’r awdurdodau a sefydliadau fel Telemat mae cryn dipyn gall cwmnïau ei wneud i addysgu eu hunain a lleihau risg i’r dyfodol.

Ymysg y camau diogelwch mae sicrhau cyfrineiriau cryf sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd, hyfforddiant staff a chofnodi unrhyw ddigwyddiadau amheus.  Mae’n bwysig manteisio ar yr adnoddau sy’n cynnig tawelwch meddwl.”

Mae adroddiadau’n dangos bod ymosodiadau seiber yn y Deyrnas Unedig wedi codi dros 50% dros ddwy flynedd.  Yn dilyn ton o ddigwyddiadau, fe wnaeth y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth atgoffa eu haelodau am y cyngor parthed diogelwch, a meddalwedd wystlo’n arbennig.

Yn ddiweddar, derbyniodd Cymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru arian grant gwerth £100,000 gan Lywodraeth Cymru i wella seiberddiogelwch a diogelwch TG cwmnïau cyfreithiol.

Ac yn 2020, mewn adroddiad gan y ‘Solicitors Regulation Authority’, nodwyd bod 75% o gwmnïau yng Nghymru a Lloegr wedi dioddef ymosodiad seiber gyda bron i chwarter yn cael eu targedu’n uniongyrchol gan arwain at golled o dros £4 miliwn o arian cleientiaid.

Ychwanegodd Kevin bod ardystiad seiberddiogelwch yn gallu bod yn ddryslyd i gwmnïau gan nad ydynt yn ymwybodol o’r hyn sy’n addas ar gyfer eu busnes nhw.

“Mae dyrannu cyllideb seiberddiogelwch yn hanfodol i ddyfodol cwmnïau yn enwedig o ysytyried yr heriau economeg a chymdeithasol sydd ohoni yn dilyn y pandemig” meddai.

“Bydd hyn yn ei dro yn cael effaith ar yswiriant, yn adeiladu hyder cleientiaid ac yn y pendraw yn dileu amheuon a gofidiau staff a pherchnogion busnes.

“Byddwch yn wyliadwrus bob amser a chofiwch gysylltu â ni am gyngor am yr hyn sydd erbyn hyn yn gur pen i gwmnïau cyfreithiol ym mhob man.”

Ewch i Get a Free Security Audit – Telemat am archwiliad rhad ac am ddim.

Am ragor o wybodaeth neu i siarad gyda’r tîm yn Antur Cymru, ffoniwch 01239 712345 neu ebostiwch

enquiries@telemat.co.uk

Neu, ewch i’r wefan :  www.anturcymru.org.uk neu www.telemat.co.uk