Astudiaeth achos: Y Cwmwl

Cwmni cyfrifyddu yw Wynne & Co., sydd wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin. Oherwydd ei fod yn fusnes bach, mae hyblygrwydd yn hanfodol i’r cwmni er mwyn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’w gleientiaid. Mae’r gallu i gynnig dulliau hyblyg o weithio hefyd yn bwysig i Wynne & Co., oherwydd mae cefnogi bywyd teuluol pob gweithiwr yn rhan o ethos y cwmni.

“Mae symud i’r Cwmwl wedi hwyluso’r hyblygrwydd hwnnw, oherwydd bellach mae modd i’r busnes gael gafael ar ei holl ddata yn unrhyw le ac ar unrhyw bryd gan ddefnyddio unrhyw ddyfais TG. Mae hynny’n arbed amser ac arian i’n cleientiaid ac i’r cwmni,” meddai Cyfarwyddwr Wynne & Co., Sarah Wynne.

“Drwy Telemat y daethom i wybod bod Google Drive a Gmail yn ddulliau effeithiol o rannu gwybodaeth a dogfennau,” esboniodd. “Heb os, mae wedi gwella’r modd yr ydym yn darparu gwasanaethau, oherwydd mae’n ein galluogi i fod yn gynhyrchiol ble bynnag yr ydym yn digwydd gweithio. Yn ogystal, mae’r ffaith ein bod yn defnyddio’r rhaglen Google Calendar yn golygu nad oes yn rhaid i ni wastraffu amser yn ffonio neu’n ebostio ein gilydd i drefnu apwyntiadau ar gyfer cleientiaid, gan fod y cyfan ar flaenau ein bysedd erbyn hyn.”

Nododd Sarah hefyd na chafwyd unrhyw drafferthion wrth drosglwyddo’r data. “Gyda Telemat, roedd trosglwyddo i’r Cwmwl yn broses ddi-dor,” meddai. “Fe wnaethon ni hyd yn oed ofyn i Telemat drosglwyddo’r data ar amser penodol er mwyn i’r broses gyd-fynd â’n diwrnod gwaith. Llwyddodd Telemat i wneud i’r cyfan ymddangos yn hawdd, ond rwy’n siŵr nad oedd mor hawdd â hynny mewn gwirionedd!”

Gwell bod mewn Cwmwl na than gwmwl! Ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch enquiries@telemat.co.uk