Beth yw’r Cwmwl?

Mae technoleg y Cwmwl wedi bod o gwmpas ers rhai blynyddoedd, ond dim ond nawr y mae ei photensial yn cael ei gydnabod yn y sector busnesau bach a chanolig eu maint, wrth i gostau leihau. Mae llawer o gwmnïau byd-eang, mwy o faint eisoes yn storio adnoddau’n ddiogel yn y Cwmwl.

Beth yw’r atyniad?

Mae’r ‘Cwmwl’ yn golygu storio data a rhaglenni a chael mynediad iddynt dros y rhyngrwyd yn hytrach na thrwy yriant caled eich cyfrifiadur. Yn hytrach na bod eich data a’ch rhaglenni’n cael eu storio ar gyfrifiadur yn eich cartref neu’ch swyddfa, cânt eu storio ar rwydwaith o gyfrifiaduron ar y rhyngrwyd.

Cyflawni un dasg neu sawl tasg ar y tro

Gallwch ddefnyddio’r Cwmwl i gyflawni un dasg benodol – megis rheoli eich cronfa ddata o gwsmeriaid neu’ch cyfrifon – neu gallwch ei ddefnyddio hefyd fel llwyfan ar gyfer eich holl wasanaethau cyfrifiadurol – megis eich ebost, eich dogfennau a’ch calendr.

 

Jelly Egg logo

“Mae Telemat yn rhoi gwasanaeth cyflym, proffesiynol ac effeithlon i ni, ac mae’r staff bob amser ben arall y ffôn pan fydd eu hangen arnom. Mae tîm Telemat yn wybodus, yn gymwynasgar ac yn gyfeillgar iawn, ac rydym yn fwy na pharod i argymell gwasanaethau Telemat”

Sarah Huxtable, Jelly Egg

 

Ar y Cwmwl

Y gwasanaethau mwyaf poblogaidd ar y Cwmwl yw Office 365 neu Google Apps. Mae’r rhain yn eich galluogi i storio eich data ar weinyddion sy’n eiddo i Microsoft a Google, ac maent hefyd yn darparu mynediad drwy borwr i amrywiaeth o feddalwedd megis rhaglenni prosesu geiriau a thaenlenni.

Yn hygyrch o unrhyw le

Un o brif fanteision gweithio yn y Cwmwl yw bod eich data’n hygyrch o unrhyw le, bron iawn – o’ch cyfrifiadur, eich llechen, eich ffôn clyfar neu unrhyw ddyfais arall sy’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd.

Mae busnesau o bob maint, o fusnesau newydd bach i fusnesau mawr, yn symud i’r Cwmwl.

Gwell bod mewn Cwmwl na than gwmwl? Ffoniwch 01239 712345 neu ebostiwch enquiries@telemat.co.uk