Pam defnyddio’r Cwmwl?

Mae pobl wedi dewis defnyddio’r Cwmwl i storio eu data a chael gafael ar eu meddalwedd am lawer o resymau:

 

1. Hygyrchedd

Gan ddefnyddio’r un meddalwedd ‘Cwmwl’ â sefydliadau mawr, gall busnesau bach gael gafael ar wybodaeth unrhyw bryd, ble bynnag y maent yn gweithio. Bydd eich data bob amser yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, ac mae hynny’n golygu ei bod yn hawdd iawn rhannu ffeiliau rhwng gwahanol ddefnyddwyr.

 

2. Costau sefydlu rhesymol

Caiff cyfleuster y Cwmwl ei brynu ar sail nifer y bobl sy’n ei ddefnyddio, sy’n golygu y gallwch brynu mynediad ar gyfer defnyddwyr newydd yn ôl yr angen. Gallwch danysgrifio i wasanaethau TG a gaiff eu cynnal gan drydydd parti, drwy dalu’n fisol fel rheol ar sail nifer y cyfrifiaduron sydd â mynediad i’r meddalwedd. Mae’r gwasanaethau yn cynnwys ebost, systemau rheoli perthynas â chwsmeriaid, a thaenlenni.

 

3. Rheolaeth

Mae defnyddio’r Cwmwl yn eich galluogi i ganolbwyntio ar eich busnes yn hytrach nag ar faterion sy’n ymwneud a chynnal gwasanaethau TG ar y safle, sy’n gallu achosi problemau. Mae defnyddio’r Cwmwl hefyd yn dileu’r broses o anfon ffeiliau’n ôl ac ymlaen rhwng defnyddwyr, ac felly’n gwella lefelau cynhyrchiant.

 

4. Hyblygrwydd

Mae defnyddio’r Cwmwl yn rhoi’r rhyddid i chi weithio o unrhyw ddyfais sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd, a chynyddu maint eich lle storio pan fydd angen. P’un a ydych yn defnyddio ffôn clyfar, llechen, cyfrifiadur Mac neu gyfrifiadur Windows, byddwch yn gallu cael gafael bob amser ar y meddalwedd a’r ffeiliau y mae eu hangen arnoch.

 

5. Diogelwch ychwanegol

Os bydd unrhyw beth yn digwydd i galedwedd eich cyfrifiadur, byddwch yn dal i fedru cael gafael ar eich dogfennau. Mae copi wrth gefn yn cael ei gadw o ddata bob amser ac mae copïau’n cael eu cadw ar draws llawer o gyfrifiaduron. Felly, hyd yn oed os bydd un cyfrifiadur yn methu, bydd pethau’n dal i weithio.

 

Photograph of Sarah Wynne from Wynne & Co

 

“Mae’r ffaith ein bod yn defnyddio’r rhaglen Google Calendar yn golygu nad oes yn rhaid i ni wastraffu amser yn ffonio neu’n ebostio ein gilydd i drefnu apwyntiadau ar gyfer cleientiaid, gan fod y cyfan ar flaenau ein bysedd erbyn hyn.”

Sarah Wynne, Wynne & Co.

 

A yw eich busnes yn colli cyfle i ddefnyddio’r Cwmwl? Ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch enquiries@telemat.co.uk