“Mae’r ffaith ein bod yn defnyddio’r rhaglen Google Calendar yn golygu nad oes yn rhaid i ni wastraffu amser yn ffonio neu’n ebostio ein gilydd i drefnu apwyntiadau ar gyfer cleientiaid, gan fod y cyfan ar flaenau ein bysedd erbyn hyn.”
Sarah Wynne, Wynne & Co.
Beth yw’r Cwmwl?
Mae’r ‘Cwmwl’ yn derm a gaiff ei ddefnyddio’n aml ym maes cyfrifiaduron, ond beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd?
Yn amlwg, nid yw eich data’n hedfan o gwmpas yn yr awyr. Rhwydwaith o gyfrifiaduron a rennir yw’r Cwmwl, sydd mewn lleoliadau diogel, a gallwch ei ddefnyddio i gael gafael ar eich gwybodaeth o ble bynnag yr ydych yn y byd.
A hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cwmwl?
Pam defnyddio’r Cwmwl?
Yn ogystal â bod yn opsiwn cost-effeithiol iawn, mae hefyd yn opsiwn dibynadwy iawn gan fod eich data’n cael ei storio ar rwydwaith o wahanol gyfrifiaduron. Mae rhannu pŵer cyfrifiadurol rhwng llawer o ddefnyddwyr hefyd yn golygu ei fod yn opsiwn sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.
A hoffech weld mwy o resymau dros ddefnyddio’r Cwmwl?
Gwell bod mewn Cwmwl na than gwmwl? Ffoniwch 01239 712345 neu ebostiwch enquiries@telemat.co.uk