Wi-Fi

Mae 1 o bob 10 cwsmer yn cyfaddef iddynt adael lleoliad oherwydd nad oedd Wi-Fi rhad ac am ddim ar gael yno.

 

Mae’r cyfleusterau Wi-Fi y gallwn eu gosod yn ddigon hyblyg i fodloni gofynion ein holl gwsmeriaid.

Mae’r gallu i gysylltu â’r rhyngrwyd bellach yn rhywbeth a ddisgwylir mewn llawer o fannau cyhoeddus. Mae angen i bobl deithio at ddibenion gwaith a hamdden, ac maent yn mynnu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, eu perthnasau a’u cydweithwyr drwy wahanol dechnolegau di-wifr.

Bellach, mae technoleg Wi-Fi yn rhywbeth normal mewn llawer o ddyfeisiau symudol megis gliniaduron, rhwydiaduron, ffonau clyfar a chonsolau gemau, ac mae’r newid hwn wedi cynyddu’r galw am fwy o hyblygrwydd o safbwynt cysylltiadau di-wifr â’r rhyngrwyd.

 

“Gyda’r clwstwr o fythynnod wedi eu lleoli mewn dyffryn gwledig a’u hadeiladu o  gerrig traddodiadol doedd creu darpariaeth di-wifr ddim yn mynd i fod yn hawdd. Rhaid oedd inni sicrhau cysylltiad di-dor ar draws y safle ac ym mhob ystafell. Yna fe ddaeth Telemat atom.”

 

Richard Bowen, Plas Cilybebyll yn eistedd

 

System Wi-Fi

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu pecyn sy’n darparu popeth y mae ei angen arnoch. Mae ein system yn gyfleuster arobryn sydd â miloedd o rwydweithiau di-wifr ledled y byd, ac mae’n darparu gwasanaeth di-dor mewn modd cyflym, hwylus a fforddiadwy.

Bydd ein pwyntiau mynediad rhad yn eich galluogi i osod mwy ohonynt, a bydd hynny’n golygu gwell gwasanaeth ar gyfer eich safle a ffordd syml o gysylltu’n syth â’r rhyngrwyd.

 

Cymorth gyda Wi-Fi

Ein nod yw sicrhau bod eich busnes (a’ch cwsmeriaid) yn ddiogel a sicrhau eich bod yn gallu rheoli beth y mae eich cwsmeriaid yn edrych arno a phryd.

Bydd ein tîm cymorth, sy’n gweithio yn y DU, yn rheoli eich cyfleuster yn gyfan gwbl a bydd cymorth ar gael i chi ar y safle pan fydd arnoch ei angen. Rydym hefyd yn cydymffurfio’n llwyr â Deddf yr Economi Ddigidol.

Photograph of Simon Ashton from Simon Safety
“Yn ddiweddar llwyddodd Telemat i osod cyswllt di-wifr rhwng ein prif safle ac adeilad newydd sydd 150 metr i ffwrdd. Roedd gwasanaeth ardderchog y cwmni’n cynnwys cyfle i ni weld sut roedd y system yn gweithio cyn i ni ymrwymo i’w gosod.”

Simon Ashton, Simon Safety and Lifting Centre Ltd.

I gael cyfleuster Wi-Fi arobryn, ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch enquiries@telemat.co.uk