Gweinyddion

Mae’r rhan fwyaf o fusnesau’n defnyddio’r hyn a elwir yn weinydd rhaglenni. Mae hynny’n golygu bod y gweinydd yn ymdrin â phob gweithred rhwng y defnyddiwr ac ôl-raglenni busnes y sefydliad, megis y systemau rheoli cysylltiadau, systemau cyfrifyddu, systemau ebost neu raglenni busnes eraill cysylltiedig.

Fodd bynnag, nid yw llawer o fusnesau bach yn gallu mwynhau’r fantais o gael Adran TG i osod a chynnal pecynnau a fyddai’n sicrhau mwy o ddibynadwyedd a diogelwch iddynt.
 

http://www.telemat.co.uk/wp-content/uploads/2014/11/Untitled-7.jpg

 

“Yn ddiweddar bu’n rhaid i ni osod gweinydd newydd yn ein prif swyddfa yn Aberystwyth. Roedd y technegwyr yn amyneddgar ac yn garedig wrth esbonio’r system yn fanwl i ni.”

Tegwen Morris, Merched y Wawr

 

Pam y mae angen gweinyddion arnom?

Mantais gweinydd yw ei fod yn helpu i ynysu rhai problemau a allai effeithio maes o law ar eich dogfennau.

Dyma’r pum prif reswm dros osod gweinydd:
  • Mae’n ffordd o sicrhau bod eich ffeiliau a’ch rhwydwaith yn fwy diogel
  • Mae’n fwy dibynadwy
  • Mae’n ffordd o storio data’n ganolog a rhannu adnoddau
  • Mae’n ffordd o reoli firysau
  • Mae’n ddull canolog o gadw copïau wrth gefn

 

Beth yw gweinydd?

Cyfrifiadur neu ddyfais ar rwydwaith yw gweinydd, sy’n rheoli adnoddau’r rhwydwaith hwnnw ac sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf i storio data. Yn syml, mae gweinydd wedi’i gynllunio i reoli, storio, anfon a phrosesu data.

Yn aml bydd gweinyddion yn ddyfeisiau un pwrpas, hynny yw ni fyddant yn cyflawni unrhyw dasgau eraill ar wahân i’w tasgau fel gweinyddion. Fodd bynnag, ar systemau gweithredu amlbroses, gall un cyfrifiadur redeg sawl rhaglen ar unwaith. Mewn achos o’r fath, gallai’r term gweinydd fod yn cyfeirio at y rhaglen sy’n rheoli adnoddau yn hytrach na’r cyfrifiadur ei hun.

 

Mae llawer o wahanol fathau o weinyddion ar gael sydd â gwahanol swyddogaethau. Bydd Telemat yn chwilio am y system orau ar gyfer eich anghenion chi o blith yr opsiynau canlynol:

  • Gweinydd ffeiliau: cyfrifiadur a dyfais storio at ddiben storio ffeiliau’n unig.
  • Gweinydd argraffu: cyfrifiadur sy’n rheoli un neu ragor o beiriannau argraffu.
  • Gweinydd rhwydwaith: cyfrifiadur sy’n rheoli traffig data.
  • Gweinydd cronfa ddata: system gyfrifiadurol sy’n prosesu ymholiadau’n ymwneud â chronfa ddata.

 

Tom Goddard and Sons logo

 

“Gosododd Telemat weinydd a chyfrifiaduron newydd ar ein cyfer fel busnes. Cafodd y gwaith ei wneud yn broffesiynol heb darfu fawr ddim ar waith y staff.”

Grant Goddard, Tom Goddard & Sons Ltd.

 

Ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch enquiries@telemat.co.uk i drafod cael gweinydd sydd wedi’i deilwra ar gyfer eich busnes