A yw eich busnes yn dioddef oherwydd cyfleuster Wi-Fi anwadal? A ydych yn gorfod defnyddio cofbinnau USB i drosglwyddo ffeiliau yn eich swyddfa? A oes gennych lawer o geblau ar hyd y lle yn eich swyddfa?
Efallai fod ceblau’n bethau sy’n swnio braidd yn ddiflas, ond maent yn agwedd hollbwysig ar system.
“Cwmni proffesiynol sy’n cynnig gwasanaeth personol.”
Ross Dawson, The Pearl Market Ltd.
Gall ceblau ddatrys eich problemau
- Cyflym – Mae rhwydweithiau cebl yn gweithio 10 gwaith yn gynt na Wi-Fi.
- Diogel – Mae rhwydweithiau cebl yn llawer mwy diogel ac yn llawer gwell am atal hacwyr.
- Dibynadwy – Mae rhwydweithiau cebl yn lleihau achosion o golli pecynnau o ddata, felly mae’n llai tebygol y bydd eich ffeiliau’n cael eu llygru.
- Taclus – Mae rhwydweithio da’n creu llai o annibendod ac yn galluogi pawb a phopeth i weithio’n gynt.
Wrth osod eich seilwaith TG, dylai’r ceblau a ddewiswch fod yr un mor bwysig â manylion eich cyfrifiadur neu gyflymder prosesu eich peiriant argraffu. Gall y ceblau cywir eich helpu i osgoi perfformiad gwael gan y rhwydwaith ac osgoi cyfnodau o fod ar stop.
Gyda Telemat gallwch fod yn hyderus y bydd y system gywir yn cael ei gosod.
Mae Telemat:
- Yn gallu galw ar beirianwyr gosod ceblau sy’n bobl brofiadol iawn a hollol gymwys.
- Yn gallu cynllunio a gosod unrhyw ffeibr optig neu geblau y gallai fod eu hangen arnoch.
- Yn gallu gosod ceblau ffeibr optig, waeth beth fo’r logisteg. Mae hynny’n cynnwys gosod systemau cludo rhwng adeiladau, ar draws nenfydau crog a than loriau uchel, a hyd yn oed creu cysylltiadau rhwng adeiladau ar lefel uchel.
“Byddwn i’n argymell Telemat i fusnesau o bob maint sy’n gwsmeriaid i fi, ac rwyf wedi gwneud hynny droeon yn y gorffennol.”
Sarah Wynne, Wynne & Co.
Os oes gennych ddiddordeb yn y glo mân:
- Mae’r rhwydweithiau yn cydymffurfio â safonau EIA/TIA y diwydiant ar gyfer Categori 5e a Chategori 6, ac maent wedi’u gwarantu am 25+ mlynedd.
- Mae’r seilwaith ceblau’n gallu cludo 10Mb, 100Mb a Gigabit o draffig rhwydwaith, sy’n eich galluogi i drosglwyddo data’n gyflym yn ogystal â defnyddio Protocol Llais dros y Rhyngrwyd a chynnal cynadleddau fideo.
- Yn syml, mae’n bosibl mai ceblau fydd elfen rataf eich seilwaith TG ond mae’n bosibl hefyd mai dyma’r elfen a fydd yn para hiraf os gwnewch chi’r dewis cywir.
A allai ceblau wella eich busnes? Ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch enquiries@telemat.co.uk