Mae llawer o fusnesau’n ddibynnol iawn ar eu rhwydweithiau er mwyn gallu gweithredu o ddydd i ddydd, felly mae cysylltiad cyflym dibynadwy’n hanfodol.
Gall hynny fod yn her mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru oherwydd nad oes band eang ar gael ym mhobman, a hyd yn oed os ydych yn gallu cael band eang mae’n debyg na fydd yn ddigon cyflym – sy’n gallu achosi’r un faint o rwystredigaeth.
“Rydym yn dibynnu’n llwyr ar rwydwaith cyfrifiadurol dibynadwy ac ar gael ymateb cyflym i unrhyw broblemau a all godi’n sydyn. Dyna’r union beth rydych yn ei gael gan Telemat.”
Graham Perkins, PMR Ltd.
Ein pecynnau band eang
Mae pecynnau band eang Telemat i fusnesau’n ddelfrydol ar gyfer busnesau bach neu unrhyw un sydd am gael mynediad cyflym a rhad i’r rhyngrwyd.
Bydd unrhyw becyn y byddwch yn ei ddewis yn cynnwys y canlynol:
- cysylltiad band eang dibynadwy a chyflym i’r busnes
- pris cystadleuol
- gwasanaeth gwych i gwsmeriaid
[ws_table id=”2″]
Beth os na allwch chi gael band eang?
Mae tua 166,000 o bobl yn y DU yn byw mewn ardaloedd gwledig sy’n ‘fannau gwan’ o ran band eang, ac mae dwy filiwn o bobl ychwanegol yn byw mewn ardaloedd gwledig lle nad yw’r ddarpariaeth o ran band eang yn ddigonol.
Mewn cymunedau gwledig caiff band eang ei ddarparu drwy linellau ffôn, 3G/4G neu loerennau. Mae’r cyfleusterau hyn fel rheol yn arafach ac yn fwy caethiwus na’r cyfleusterau sy’n cyfateb iddynt mewn trefi a dinasoedd, ac maent bron bob amser yn fwy costus.
Mae’n bosibl osgoi’r system drwy ddefnyddio band eang ffeibr gwledig a band eang symudol. Mae llawer o gymunedau’n dewis gwneud hynny, ac yn y pen draw bydd ganddynt gysylltiadau sy’n aml ymhlith y cyflymaf yn y DU.
Problemau signal
Fel y byddech yn disgwyl, y broblem fawr i ardaloedd gwledig yw ansawdd y signal.
- Gall Telemat gynnal prawf RHAD AC AM DDIM ar gyflymder ac argaeledd band eang yng nghyswllt y cyfleuster hwn.
- Yn ogystal, gall Telemat ddarparu modem sy’n creu llwybr ar gyfer 3G drwy’r cartref neu’r swyddfa gyfan.
“Bu Telemat yn gosod ac yn profi’r offer dros gyfnod o ddau ddiwrnod. Roedd yr offer a osodwyd yn cynnwys antena allanol, llwybrydd priodol ac addaswyr, lle’r oedd angen, er mwyn cyrraedd gwahanol rannau o bob eiddo.”
Astudiaeth Achos Band Eang – Nebo yn y gogledd