Gall band eang cyflym iawn roi hyd at 76Mb i chi a bydd ar gael i 96% o boblogaeth Cymru.
Manteisiwch ar y dechnoleg i ehangu eich busnes. Mae band eang cyflym iawn yn cynnig cyfleoedd cyffrous i’ch busnes ddatblygu a chael mantais gystadleuol.
“Mae band eang cyflym iawn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ffordd rydym yn gweithio. Bellach, gallwn wneud pethau’n gynt ac yn fwy effeithlon.”
Menna Jones, Prif Weithredwr Antur Waunfawr
Pam dewis band eang cyflym iawn?
Gall cysylltiad cyflym a mwy dibynadwy â’r rhyngrwyd gynnig llu o gyfleoedd newydd i fusnesau. Yn ogystal â chynyddu’r capasiti sydd gennych i anfon a derbyn data’n electronig, gall hefyd wella cysylltiadau â chwsmeriaid drwy wella amseroedd ymateb. Yn ogystal, gall band eang cyflym iawn gyflwyno manteision gweithio oriau hyblyg i’ch busnes.
Gallwn eich tywys drwy eich opsiynau a chynnig rhai atebion cost-effeithiol iawn i gyflymu eich band eang.
[ws_table id=”5″]
Mannau gwan
Ni fydd yn bosibl gosod ceblau ffeibr optig mewn rhai mannau. Mae Telemat eisoes yn gweithio gyda llawer o fusnesau ar draws Cymru sydd mewn mannau gwan neu fannau araf o ran band eang, er mwyn eu helpu i fynd i’r afael â’r problemau hynny drwy ddarparu dulliau amgen o gael band eang. Gall y dulliau amgen hyn oresgyn llawer o’r problemau sy’n gysylltiedig â band eang araf, sy’n cynnwys pellter o’r gyfnewidfa, nifer y dyfeisiau sydd wedi’u cysylltu gennych, problemau gyda cheblau, firysau, yr adeg o’r dydd ac, wrth gwrs, y tywydd.
Gallwn eich tywys drwy eich opsiynau a chynnig rhai atebion cost-effeithiol iawn i gyflymu eich band eang.
“Gofalodd Telemat am y broses gyfan a oedd yn cynnwys rhoi cyngor ynghylch y dechnoleg, cael gafael ar y cymorth ariannol a gosod y dechnoleg yn ddidrafferth, ac o gymharu â band eang traddodiadol drwy’r llinell ffôn mae’r dechnoleg hon yn gystadleuol o ran pris hefyd.”
Aled Rees, Fferm Trefere Fawr