Wi-Fi, band eang a rhwydweithiau

Gall Telemat gynllunio a chreu cyfleuster sydd wedi’i deilwra ar gyfer eich cartref neu’ch busnes.

Photograph of Simon Ashton from Simon Safety

 

“Yn ddiweddar llwyddodd Telemat i osod cyswllt di-wifr rhwng ein prif safle ac adeilad newydd sydd 150 metr i ffwrdd. Roedd gwasanaeth ardderchog y cwmni’n cynnwys cyfle i ni weld sut roedd y system yn gweithio cyn i ni ymrwymo i’w gosod.”

Simon Ashton, Simon Safety and Lifting Centre Ltd.

Wi-Fi 

Mae’r gallu i gysylltu â’r rhyngrwyd bellach yn rhywbeth a ddisgwylir mewn llawer o fannau cyhoeddus. Mae pobl yn mynnu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, eu perthnasau a’u cydweithwyr drwy wahanol dechnolegau di-wifr, ble bynnag y maent.

Mae’r cyfleusterau Wi-Fi y gallwn eu gosod yn ddigon hyblyg i fodloni gofynion ein holl gwsmeriaid.

A allai ein cyfleusterau Wi-Fi eich helpu chi? 

 

Band eang

Mae llawer o fusnesau’n ddibynnol iawn ar eu rhwydweithiau er mwyn gallu gweithredu o ddydd i ddydd, felly mae cysylltiad cyflym dibynadwy’n hanfodol.

Mae pecynnau band eang Telemat i fusnesau’n ddelfrydol ar gyfer busnesau bach neu unrhyw un sydd am gael mynediad cyflym a rhad i’r rhyngrwyd.

Pa becyn band eang sydd fwyaf addas i chi? 

 

Band eang cyflym iawn

Manteisiwch ar y dechnoleg i ehangu eich busnes. Mae band eang cyflym iawn yn cynnig cyfleoedd cyffrous i’ch busnes ddatblygu a chael mantais gystadleuol.

Gallwn eich tywys drwy eich opsiynau a chynnig rhai atebion cost-effeithiol iawn i gyflymu eich band eang.

Darganfod mwy am fand eang cyflym iawn 

 

Gweinyddion

Er bod nifer gynyddol o fusnesau’n storio data yn y Cwmwl, mae angen i lawer o sefydliadau gael gweinydd yn eu swyddfa hefyd i ymdrin â thasgau mwy arbenigol.

Mantais gweinydd yw ei fod yn helpu i ynysu rhai problemau a allai effeithio maes o law ar eich dogfennau.

Darganfod mwy am ein gweinyddion 

 

Ceblau

A yw eich busnes yn dioddef oherwydd cyfleuster Wi-Fi anwadal? A ydych yn gorfod defnyddio cofbinnau USB i drosglwyddo ffeiliau yn eich swyddfa? A oes gennych lawer o geblau ar hyd y lle yn eich swyddfa?

Mae rhwydweithiau cebl yn gweithio 10 gwaith yn gynt na Wi-Fi, a gyda Telemat gallwch fod yn hyderus y bydd y system gywir yn cael ei gosod.

Darganfod mwy am ein gwasanaeth o ran clebau 

 

To find out more, call us on 01239 712345, or email enquiries@telemat.co.uk