Trefi Clyfar : Celfyddyd y posib

Trefi Clyfar: 
Celfyddyd y posib

Mae Cyngor Sir Gar yn cynnig cyllid i hyd at 45 o fusnesau i fedru cyfaddawdu gyda’rdechnolegnewyddsbonsyddargael. Pwrpashynfyddialluogibusnesau i ddefnyddio dyfeisiadau electronig bychan er mwyn defnyddio’r rhwydwaith “rhyngrwyd o bethau” (Internet of Things – IOT) fydd yn rhoi cymorth ichi i wella eich dealltwriaeth o weithgareddau eich busnes.

Bydd y dyfeisiadau a synwyryddion clyfar ac anymwthiol yma’n adrodd yn ôl trwy fwrdd rheoli. Mae’r bwrdd yma wedyn yn caniatau i chi wneud penderfyniadau er mwyn arbed gwastraff a gwella effeithlonrwydd ac elw. Mae’r rhain i gyd yn perthyn i’r system ehangach o gysylltedd sy’n cael ei adnabod fel “Trefi Clyfar”.

Mi fydd cyllid ar gael er mwyn ichi fedru derbyn cyngor ar ddatrysiadau addas ar gyfer eich busnes, yn ogystal â phrynu a gosod y synwyryddion. Mae gan y synwyryddion yma’r gallu, (ond nid yw hyn wedi ei gyfyngu) i synhwyro tymheredd, symudiad, golau ac ansawdd aer ac mae modd hefyd casglu gwybodaeth benodol wrth gwsmeriaid.

Gall y synwyryddion yma adrodd yn ôl ar dymheredd oergell mewn cegin fasnachol neu lefelau lleithder mewn storfeydd lle mae angen amodau lleithder penodol.

Mae’r prosiect peilot eisoes ar waith i helpu nifer o fusnesau bach yn Llanelli, Caerfyrddin, Rhydaman a Phorth Tywyn.

Y bwriad pennaf yw helpu busnesau i gasglu data defnyddiol a bod yn fwy gwybodus wrth wneud cynlluniau i gynyddu cyllid yn y dyfodol. Mae defnyddio dyfeisiadau’r “Rhyngrwyd o Bethau“ (IoT) yn darparu deallusrwydd a data er mwyn cynnal llwyddiant busnes sydd yn allweddol i ffyniant a datblygiad canol trefi.

Gall y dyfeisiadau rhybuddio ar bethau syml e.e. drws oergell neu ffwrn heb ei gau, neu arolygu amodau tymheredd neu golau, fydd yn y pendraw yn atal gwastraff.

Proses syml, 3 cham

Ymgynghoriad

Os oes gennych chi ddiddordeb, mae modd mynd ati i drefnu ymgynghoriad wyneb yn wyneb am ddim. Mi fydd hyn yn gyfle i gynnig cyngor er mwyn medru adnabod datrysiadau syml e.e. ffyrdd newydd o arbed egni.

Cais

Mi fydd y broses
o ymgeisio yn
un syml, ac yn cynnwys costau’r synwyryddion a chreu’r bwrdd rheoli hyd at werth o £1000 ar gyfer 45 busnes. Bydd y ceisiadau yn cael ei ymdrin fel cyntaf i’r felin.

Cefnogaeth Barhaus

Er mwyn sicrhau’r deunydd gorau o’r offer bydd hyfforddiant a chefnogaeth bellach ar gael er mwyn sicrhau bod y data y mae’r offer yn ei ddarparu yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Antur Cymru ar 01239 712345 neu gwblhewch y ffurflen isod i wneud cais a chadw eich lle.

Enw Cyswllt(yn ofynnol)