Nid gosod larymau a chamerâu cylch cyfyng yw’r unig beth y gallwch ei wneud i ddiogelu eich busnes. Mae mwy a mwy o wybodaeth – gwybodaeth gorfforaethol, bersonol ac ariannol – yn cael ei storio a’i phrosesu ar systemau TG, ac felly mae’r perygl o fygythiadau i’ch busnes yn cynyddu. Gallai’r canlyniadau hynny gael effaith hirdymor ar eich busnes.
Mae diogelu’r data sydd ar eich system gyfrifiadurol yr un mor bwysig â chloi eich ffenestri a’ch drysau pan fyddwch yn mynd i ffwrdd ar eich gwyliau blynyddol!
“Mae Telemat wedi ein helpu i roi systemau a phrosesau diogelwch ar waith er mwyn bodloni holl ofynion archwiliadau allanol llym ein cleientiaid.”
Graham Perkins, PMR Ltd.
Cael Telemat i warchod eich busnes rhag bygythiadau
Gall Telemat ddarparu cyngor a chymorth i gadw eich systemau’n ddiogel yn yr amgylchedd hwn sy’n mynd yn fwyfwy cymhleth.
Mae pob bwrdd gwaith yn fynedfa bosibl i firysau. Gall problemau gael eu hachosi gan y canlynol:
- Defnydd esgeulus o ebost
- Y rhyngrwyd
- Cysylltiadau di-wifr nad ydynt wedi’u diogelu’n ddigonol
- Camgymeriad gan y staff
Archwiliad diogelwch
Bydd Telemat yn adolygu diogelwch eich rhwydwaith ac yn darparu adroddiad i chi ynghylch y canfyddiadau gan dynnu sylw at unrhyw fylchau o ran diogelwch. Bydd hefyd yn cynnig argymhellion er mwyn diogelu eich systemau, a allai gynnwys gosod un o’r canlynol:
Meddalwedd gwrthfirws
Rhaglen sydd wedi’i chynllunio i chwilio am firysau meddalwedd a meddalwedd maleisus arall megis mwydod, ceffylau Caerdroea, meddalwedd hysbysebu ac ati, ac sydd wedi’i chynllunio i’w hatal, eu darganfod a’u dileu.
Mur gwarchod
Darn o feddalwedd neu galedwedd sydd wedi’i gynllunio i atal tresmaswyr anghymwys rhag cael mynediad i gyfrifiadur unigol neu rwydwaith.
Dull o ddiogelu cysylltiadau di-wifr
Mae hynny’n golygu diogelu eich rhwydwaith di-wifr a rhoi’r mesurau mwyaf effeithiol ar waith er mwyn diogelu eich rhwydwaith a’i ddata sensitif.
I gadw eich busnes yn ddiogel, ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch enquiries@telemat.co.uk