Mae system TG sydd wedi’i chynllunio’n dda ac sy’n cael ei chynnal a’i chadw’n dda yn galluogi busnes i redeg yn ddidrafferth, a gall y staff gyflawni eu gwaith heb orfod poeni am yr offer. Ein gwasanaeth diagnosteg TG yw’r cam cyntaf tuag at sicrhau hynny.
Yn Telemat rydym yn cynnig asesiad diagnostig rhad ac am ddim o’ch system TG heb ofyn i chi ymrwymo i ddim byd. Yn ystod y broses byddwn yn asesu effeithlonrwydd un o elfennau pwysicaf unrhyw fusnes modern, sef y seilwaith technoleg gwybodaeth. Mae adroddiad yr asesiad yn gyfle ardderchog i berchennog busnes bach gael llawer iawn o wybodaeth yn rhad ac am ddim.
Mae’r gwasanaeth yn addas i unrhyw fusnesau sydd am:
- Sicrhau bod eu system TG bresennol mor effeithiol ag sy’n bosibl
- Deall sut y byddai technoleg newydd o fudd iddynt
- Adnabod gwendidau yn eu seilwaith TG cyfredol
Caiff yr adroddiadau eu hysgrifennu gan un o’n technegwyr profiadol, ac maent yn ymdrin â’r canlynol:
- Y modd y mae’r gweinydd wedi’i ffurfweddu
- Asesiad o’r lefelau presennol o dechnoleg
- Diogelwch a pharhad busnes
- Anghenion o ran sgiliau a hyfforddiant
“Cawsom ymateb yn syth gan Clive i’n cais am asesiad diagnostig, a threfnwyd cyfarfod ar unwaith. O ganlyniad i’r drafodaeth addysgiadol iawn a gawsom, bu modd i ni ddiffinio llwybr clir ymlaen gydag atebion a oedd o fewn ein cyrraedd. A fyddem yn defnyddio Telemat yn y dyfodol? Byddem, yn bendant.”
Veronica, Foresight SHE Ltd.