Yn Telemat rydym yn darparu’r cymorth TG y mae ei angen ar eich busnes. Rydym yn barod i ddarparu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra er mwyn creu pecyn o gymorth TG sy’n addas i’ch busnes – p’un a oes arnoch angen cymorth diderfyn sy’n seiliedig ar ymateb cyflym neu gymorth syml, talu wrth fynd er mwyn datrys unrhyw broblemau annisgwyl a all godi.
[ws_table id=”6″]
Ein haddewid o ran cymorth
Rydym yn addo:
- Darparu cyngor diduedd a gonest ynghylch eich gofynion – os nad oes angen rhywbeth arnoch, ni fydd Telemat yn ei werthu i chi.
- Ymateb i bob ymholiad cyn pen 5 munud.
- Dechrau ar y gwaith cyn pen 3 awr.
- Darparu cymorth y tu allan i oriau swyddfa os bydd angen.
- Trefnu gwasanaeth wedi’i deilwra os byddwch yn gofyn amdano.
- Darparu gwasanaeth dwyieithog.
- Darparu technegwyr profiadol a chyfeillgar i’ch cynorthwyo pan fydd angen cymorth arnoch.
“Gofynnon ni i Telemat ddarparu peiriannydd ar fyr rybudd i helpu ar safle un o’n cleientiaid. Roedd Telemat yn broffesiynol iawn, a gyda help y cwmni bu modd i ni gwblhau’r dasg mewn pryd. Byddem yn argymell Telemat i bawb.”
Des John, Larymau Dyfed
Cymorth diderfyn ar y safle neu o bell
Mae ein pecyn o gymorth diderfyn o bell a thros y ffôn yn ddelfrydol i fusnesau y mae arnynt angen ymateb cyflym i’w problemau TG. Mae ein gwasanaeth rheoli bwrdd gwaith o bell yn defnyddio technolegau’r meddalwedd diweddaraf i’n galluogi i gysylltu’n ddiogel â’ch cyfrifiadur a gweld beth sy’n digwydd. Yna, gallwn ddarganfod a datrys unrhyw broblemau a allai fod gennych. Gallwch adael y cyfan i ni wedyn a mynd i gael paned!
Byddwn yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr sy’n cyd-fynd ag unrhyw ofynion sydd gennych o ran TG. O osod peiriannau argraffu i ffurfweddu cyfrifiadur newydd ar eich rhwydwaith, gallwn ddarparu gwasanaeth drwy gydol y flwyddyn sy’n cynnig cymorth diderfyn nid yn unig ar gyfer eich cyfrifiadur ond hefyd ar gyfer unrhyw offer sy’n gysylltiedig â’ch cyfrifiadur, megis peiriant argraffu, llwybrydd, sganiwr a monitor.
Yn Telemat, byddwn yn creu pecyn wedi’i deilwra sy’n addas ar gyfer eich busnes chi, boed fach neu fawr.
A oes angen ymgynghoriad RHAD AC AM DDIM arnoch ar eich safle?
“Cefais broblem nad oedd modd ei hesbonio ar fy nghyfrifiadur yn y swyddfa ac a oedd yn golygu fy mod yn cael trafferth prosesu’r gyflogres a pharatoi cyfrifon y cwmni. Cyn pen 24 awr roedd Telemat wedi casglu’r cyfrifiadur, wedi datrys y broblem ac wedi dod â’r cyfrifiadur yn ôl i’r swyddfa.”
Sarah Wynne, Cwmni Cyfrifyddu Wynne & Co.
Cymorth talu wrth fynd
Rydym yn deall mai dim ond o bryd i’w gilydd y bydd angen cymorth TG ar rai busnesau. Mae ein cymorth talu wrth fynd ar gael i chi pan fydd arnoch ei angen. Byddwch yn cael ein gwasanaeth pwrpasol heb ymrwymo i gontract. Mae’r gwasanaeth hwn yn ddelfrydol ar gyfer yr adegau pan fydd eich staff TG ar wyliau neu pan fydd gennych ormod o waith arall ar wahân i orfod poeni am reoli TG, neu hyd yn oed os byddwch am roi cynnig ar y gwasanaeth cyn ei brynu!
Beth bynnag fo’ch rhesymau, mae talu wrth fynd yn ffordd gost-effeithiol o ddefnyddio ein harbenigedd.