Atgyweirio cyfrifiaduron

Yn Telemat rydym yn fodlon cywiro problemau sy’n gysylltiedig â systemau Microsoft, Apple a Linux, ac mae pob tasg yn cael ei chwblhau gan ein peirianwyr cymwys tu hwnt.

Rydym yn darparu gwasanaeth un i un, felly byddwch bob amser yn delio’n uniongyrchol â’r peiriannydd sy’n atgyweirio eich cyfrifiadur, ac ni fyddwch yn cael eich trosglwyddo o’r naill berson i’r llall fel sy’n digwydd mewn cwmni mawr.

Mae gennym nifer gynyddol o gwsmeriaid bodlon – unigolion preifat a busnesau bach – ac rydym yn falch o’r ffaith bod y rhan fwyaf o’n gwaith atgyweirio cyfrifiaduron yn dod oddi wrth gwsmeriaid sy’n dychwelyd atom neu gwsmeriaid sy’n cael eu cyfeirio atom gan bobl eraill.

 

Photograph of GRJ Media productions

“Pan ddaeth problem ddifrifol i’r amlwg ar fy ngliniadur aeth Telemat ag ef i ffwrdd, a phan ddaeth y tîm ag ef yn ôl yr wythnos ganlynol roedd fel gliniadur newydd ac roedd yn gweithio’n hwylus. Hyd heddiw, does gen i ddim syniad beth wnaeth Telemat i achub y gliniadur, ond y cyfan y gallaf i ei ddweud yw ‘Pob clod i Telemat’.”

Graham Perkins, PMR Ltd.

 

Beth bynnag yw eich problem, gall Telemat eich helpu:

 

Adfer data sydd wedi’i ddileu

A yw eich gliniadur neu’ch cyfrifiadur pen desg wedi methu? Os na allwch gael gafael ar eich data, gallwn ni helpu. Mae ein gwasanaeth adfer data’n cynnwys adfer data sydd wedi’i ddileu ac achub data o system weithredu sydd wedi’i llygru. Gallwn hefyd adfer eich data o yriannau allanol a gyriannau USB, a gallai gostio llai o lawer nag y byddech yn ei ddisgwyl!

A ydych wedi prynu cyfrifiadur newydd? Gadewch i ni eich helpu i drosglwyddo data o’r hen gyfrifiadur i’r un newydd.

 

Cael gwared ar firws

Gall firysau ar eich cyfrifiaduron achosi llawer o broblemau, yn enwedig os ydych yn defnyddio’r cyfrifiaduron i storio data pwysig neu i weithio. Mewn rhai achosion gallant wneud difrod difrifol i’ch system weithredu, felly bydd angen help arbenigol i gael gwared ar y rhan fwyaf o firysau.

Gallwn dynnu meddalwedd maleisus oddi ar eich cyfrifiadur. Bydd hynny’n cyflymu eich cyfrifiadur neu’ch gliniadur ac yn atal troseddwyr rhag cael eich manylion personol yn y dyfodol.

 

Gwiriad iechyd

Bydd y gwasanaeth y byddwn yn ei roi i’ch cyfrifiadur yn ei gyflymu ac yn ymestyn ei oes, drwy leihau gwres ac atal unrhyw orlwytho. I sicrhau bod hynny’n digwydd, mae’n bwysig cynnal gwiriadau iechyd yn rheolaidd.

Dros amser, bydd tasgau pob dydd megis gosod rhaglenni newydd neu bori’r rhyngrwyd yn tagu eich cyfrifiadur, ac efallai y byddwch yn sylwi nad yw mor gyflym ag arfer neu’i fod yn methu’n amlach.

Er mwyn sicrhau bod eich cyfrifiadur yn gweithio mor dda ac mor ddibynadwy ag sy’n bosibl unwaith eto, gall Telemat roi gwasanaeth llawn iddo, sy’n cynnwys diweddaru’r caledwedd.

GAB logo

“Daeth problem i’r amlwg ar un o fy nghyfrifiaduron yn ddiweddar. Dywedodd Telemat y byddai aelod o staff gyda fi cyn pen 75 munud, ac fel yr addawyd roedd technegydd wedi cyrraedd fy swyddfa cyn pen 75 munud ac roedd y cyfrifiadur yn gweithio cyn pen 10 munud.”

Gerald Bartlett, GAB Building Contractors Ltd.

 

A oes angen achub eich cyfrifiadur chi? Ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch enquiries@telemat.co.uk