Eich adran TG eich hun
Mae Telemat yn gweithredu fel adran TG i lawer o fusnesau o bob maint ar draws Cymru. Rydym yn deall nad yw eich busnes yn gweithio pan na fydd eich systemau cyfrifiadurol yn gweithio, ac rydym yn deall bod cyfnodau pan fydd popeth ar stop yn gallu achosi rhwystredigaeth a bod yn gostus.
Mae tîm Telemat o weithwyr proffesiynol a phrofiadol ym maes TG yn darparu’r seilwaith y mae ei angen ar unrhyw fusnes i redeg yn effeithiol yn y byd technolegol sydd ohoni.
“Pan ddaeth problem i’r amlwg ar un o fy nghyfrifiaduron, ffoniais i Telemat. Cefais wybod gan y technegydd wrth y ddesg gymorth y byddai un o’i gydweithwyr gyda fi cyn pen 75 munud! Cyn pen 10 munud ar ôl iddo gyrraedd, roedd wedi darganfod a datrys y broblem.”
Gerald Bartlett, GAB
Dim gwastraffu amser
Mae aelodau tîm Telemat yn arbenigwyr ar ymateb i broblemau sy’n codi o ddydd i ddydd, oherwydd maent yn gwybod ei bod yn bwysig bod unrhyw broblemau’n cael eu datrys yn gyflym ac yn effeithlon, gan amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar eich diwrnod gwaith. Os oes modd datrys y broblem dros y ffôn, dyna fydd yn digwydd.
Bydd ein peirianwyr sy’n teithio o le i le’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch pryd y byddant yn cyrraedd, fel na fydd yn rhaid i chi aros amdanynt. Does dim byd yn achosi mwy o rwystredigaeth na gorfod gohirio popeth tra byddwch yn aros i rywun alw – ar wahân i’r broblem gyda’r rhyngrwyd wrth gwrs!
“Mae technegwyr cyfeillgar Telemat bob amser yn barod i neilltuo amser i’n cynghori ynghylch sut i wneud yn fawr o’n system gyfrifiadurol.”
Louise Welch, Welch & Co., Cyfreithwyr
Eich dewis chi
Mae ein gwasanaethau cymorth TG ar y safle ac o bell yn eich galluogi i ddewis y lefel o ran gofyn sy’n addas ar gyfer eich busnes a’ch cyllideb. Cliciwch yma i ddarganfod beth sy’n addas ar gyfer eich busnes chi…
“Gosododd Telemat weinydd a chyfrifiaduron newydd ar ein cyfer fel busnes. Cafodd y gwaith ei wneud yn broffesiynol heb darfu fawr ddim ar waith y staff.”
Grant Goddard, Tom Goddard & Sons Ltd.
Sut y gallwn eich cynorthwyo chi? Ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch enquiries@telemat.co.uk