
Mae bythynnod gwyliau hunanarlwyo ar ystad hanesyddol Plas Cilybebyll yn eistedd yn nhreflan hynafol Cilybebyll ger Pontardawe – man, yn ôl yr hanes, lle bu’r Rhufeiniaid Castell-nedd yn treulio eu hamser hamdden.
Wrth gamu ymlaen rhyw 1,600 o flynyddoedd, mae ymwelwyr i’r bythynnod gwyliau yng Nghwm Tawe yn medru crwydro dros gan erw o dir preifat sy’n cynnwys coetir blodeuog, nentydd byrlymus a bryniau irddlas, tra’n rhyfeddu ar olygfeydd panoramig ar gefn gwlad Cymru – yn union fel y gwnaeth y Rhufeiniaid gynt!
Heddiw, diolch i Telemat TG, gall ymwelwyr i’r safle gael hyn i gyd a mwy. Richard Bowen yw rheolwr y busnes teuluol yng Nghwm Tawe. Meddai, “ Yn y blynyddoedd diwethaf ry’ ni wedi gweld cynnydd aruthrol yn y nifer o bobol sy’n dod â mwy a mwy o ddyfeisiau symudol gyda nhw ar eu gwyliau – o blant a’u teclynnau chwarae gemau i bobl busnes a’u gliniaduron. Mae cysylltedd yn ffactor bwysig i ymwelwyr erbyn hyn wrth iddyn’ nhw benderfynu ar ble i fynd ar eu gwyliau.
“Gyda’r clwstwr o fythynnod wedi eu lleoli mewn dyffryn gwledig a’u hadeiladu o gerrig traddodiadol doedd creu darpariaeth di-wifr ddim yn mynd i fod yn hawdd. Rhaid oedd inni sicrhau cysylltiad di-dor ar draws y safle ac ym mhob ystafell. Yna fe ddaeth Telemat atom.”
Yn ôl Richard Bowen, Telemat oedd yr unig gwmni oedd yn deall yr anghenion penodol a phwysigrwydd cael darpariaeth o’r radd flaenaf i’r gwesteion. Medd Richard, “Roedd gan y technegydd wir ddiddordeb yn y dasg. Mi oedd e’n benderfynol o gael y system i weithio i’w lawn potensial.”
Mae gallu cynnig wi-fi yn sicr wedi bod o fudd i fusnes Richard – a gwneud hynny’n gost-effeithiol yn fonws pendant. “Ry’ ni’n anelu at y gorau ym mhob agwedd o‘n busnes” meddai. “Roedd cael gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n gwesteion oll yn brif flaenoriaeth. Diolch i Telemat , dyna’n union beth y’n ni wedi cael .”
Mae systemau Wi-Fi Telemat yn cynnig:
- System ddiogel, hawdd ei monitro
- Pwyntiau mynediad rhad er mwyn gallu darparu Wi-Fi ar draws y safle cyfan
- System nad yw’n gofyn am lawer o waith cynnal a chadw ac sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd
- Cymorth ar y safle ac o bell