Aled yn mwynhau manteision band eang wrth gofrestru gwartheg

Photograph of Aled ReesI Aled Rees, mae colli amser yn golygu colli arian, a gan mai ffermwr ydyw byddai’n siŵr o ddadlau nad oes ganddo ddigon o’r naill na’r llall! Fodd bynnag, mae’n cyfaddef bod angen iddo wneud y gorau o’r hyn sydd ganddo ac, er mwyn bod yn gystadleuol, bod angen iddo allu cael gafael ar wybodaeth yn sydyn. Diolch i’r drefn, mae’n gallu gwneud hynny bellach ers i fand eang 3G di-wifr gael ei osod yn Fferm Trefere Fawr, Aberteifi, sef canolbwynt ei fusnes teuluol. Ond nid oedd pethau mor hawdd â hynny o’r blaen.

 

“Wrth gofrestru lloi ar system olrhain gwartheg y Llywodraeth, drwy Borth y Llywodraeth, roedd yn anodd iawn cael cysylltiad digon sefydlog â’r rhyngrwyd drwy ein cysylltiad deialu. Gallai gymryd hyd at 20 munud i gofrestru un llo, ac roedd data’n cael ei golli’n aml ar hyd y gwifrau.

“Gan fod y cysylltiad deialu hwnnw’n defnyddio’r llinell ffôn, cefais sioc ofnadwy pan gyrhaeddodd y bil ffôn cyntaf. Roedd y costau bron wedi treblu a dyna pryd y bu’n rhaid i fi, fel llawer o ffermwyr eraill, fynd yn ôl i gofrestru lloi ar bapur.”

Roedd Trefere Fawr ben pellaf llinell ffôn y gyfnewidfa leol, a byddai wedi costio crocbris i gael band eang drwy’r llinell ffôn. Ar ben hynny, nid oedd gan BT unrhyw gynlluniau i osod band eang yno yn y dyfodol agos. Diolch i’r drefn, roedd ateb ar gael, a hwnnw’n ateb rhad, oherwydd roedd modd i Aled a’i deulu fanteisio ar fenter Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n galluogi busnesau a chartrefi i gael hyd at £1,000 o gymorth i osod seilwaith er mwyn cael gwasanaeth band eang cyflymach.

Aeth Aled at Telemat Ltd., sef cwmni lleol sy’n arbenigo mewn darparu cymorth a chyfleusterau TG, a chyn pen dim o dro roedd erial bach ac ambell ddyfais arall wedi’u gosod yn eu lle ac roedd band eang wedi cyrraedd y fferm.

“Gofalodd Telemat am y broses gyfan a oedd yn cynnwys rhoi cyngor ynghylch y dechnoleg, cael gafael ar y cymorth ariannol a gosod y dechnoleg yn ddidrafferth, ac o gymharu â band eang traddodiadol drwy’r llinell ffôn mae’r dechnoleg hon yn gystadleuol o ran pris hefyd.”

Mae Aled a’i wraig, Hedydd yn rhedeg busnes contractio prosesu grawn ochr yn ochr â’u busnes llaeth organig, ond ers i fand eang 3G gael ei osod ar y fferm 600 erw, mae bywyd y teulu wedi’i drawsnewid. Gall Aled gael cydrannau sbâr neu ddyfynbrisiau dros y rhyngrwyd ac mae’r plant, Delor ac Owain, yn llawer hapusach hefyd gan eu bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth sy’n eu cynorthwyo gyda’u gwaith ysgol.

“Mae’r cyngor a’r cymorth a gawsom gan Telemat Ltd. wedi bod yn ardderchog, ac roedd gen i ffydd yn y cwmni gan fod Clive Davies ei hun yn fab i ffermwr a’i fod yn gallu deall fy sefyllfa’n iawn. Roedd y grant yn help mawr hefyd, wrth gwrs. Mae gan Clive Davies, rheolwr Telemat Ltd. yng Nghastellnewydd Emlyn, brofiad helaeth o ymdrin â’r problemau a’r rhwystredigaethau yr oedd Aled a’i deulu’n eu hwynebu.

“Doedden nhw ddim yn wahanol i fusnesau a chartrefi eraill, yn enwedig busnesau a chartrefi mewn ardaloedd gwledig yn y gorllewin, ond diolch i’r drefn, mae busnesau sy’n cael eu gadael ar ôl ar hyn o bryd yn gallu trawsnewid y ffordd y maent yn gweithio, drwy gael gafael ar y dechnoleg hon heb orfod talu fawr ddim amdani,” meddai Clive Davies.

“Rydym wedi gweld bod busnesau a chartrefi ym mwyafrif yr ardaloedd rydym wedi bod yn gweithio ynddynt wedi llwyddo i gynyddu cyflymder eu band eang yn sylweddol drwy fand eang 3G symudol – ac mae ein cleientiaid wedi gallu cael band eang â chyflymder sydd rhwng 1Mb a 3Mb.

“Mae rhannau o gefn gwlad Cymru yn dal heb wasanaeth band eang drwy linell ffôn oherwydd eu pellter o’r gyfnewidfa. Un ateb yw band eang symudol (3G), a gall busnesau a chartrefi gael hyd at £1,000 o gymorth i osod seilwaith er mwyn cael gwasanaeth band eang cyflymach.

“Dydyn ni ddim yn gwybod am faint y bydd arian cyhoeddus ar gael i’w fuddsoddi mewn seilwaith, felly mae’n amlwg mai nawr yw’r amser i weithredu.”

I gael rhagor o wybodaeth am 3G, ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch info@telemat.co.uk