Astudiaeth achos: Band eang

Daeth cymuned o fusnesau gwledig ac unigolion yn Nebo, Llanrwst yn y gogledd ynghyd i wneud cais am gymorth dan y Cynllun Cymorth Band Eang.

Yr opsiynau a oedd ar gael iddynt oedd lloeren neu 3G. Dangosodd arolwg o’r safle, a gynhaliwyd gan Telemat, fod signal 3G cryf yn yr ardal oherwydd y mast cyfathrebu sydd ym mhen gogleddol y dyffryn.

Cofnodwyd cyflymderau mynediad a oedd rhwng 1MB a 3MB. Ar sail hynny, penderfynodd y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr ddewis 3G yn hytrach na lloeren.

 

Drwy waith cydlynu a wnaed gan un unigolyn yn y gymuned, cwblhawyd ffurflenni cais ar gyfer 19 eiddo. Cyn pen chwe wythnos, roedd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r ceisiadau am fand eang 3G.

Bu Telemat yn gosod ac yn profi’r offer dros gyfnod o ddau ddiwrnod. Roedd yr offer a osodwyd yn cynnwys antena allanol, llwybrydd priodol ac addaswyr, lle’r oedd angen, er mwyn cyrraedd gwahanol rannau o bob eiddo.

 

Aerial photograph of Nebo broadband points

 

Map yn dangos lleoliad pob set o offer a osodwyd yn y dyffryn, mewn ardal sydd hyd at oddeutu 8 milltir o’r mast cyfathrebu.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cymorth Band Eang, ffoniwch 01239 712345 neu ebostiwch enquiries@telemat.co.uk