{"id":1441,"date":"2014-12-11T10:21:34","date_gmt":"2014-12-11T10:21:34","guid":{"rendered":"http:\/\/www.telemat.co.uk\/support-need-t-2\/"},"modified":"2015-02-02T14:35:21","modified_gmt":"2015-02-02T14:35:21","slug":"cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/","title":{"rendered":"Cymorth pan fo arnoch ei angen fwyaf"},"content":{"rendered":"<p>Mae busnesau bach a chanolig eu maint yn y DU am anfon yr ymadroddion a ddefnyddir gan ddesgiau cymorth TG ac sy&#8217;n gwylltio pobl fwyaf ym Mhrydain draw i &#8216;Ddesg Gymorth\u00a0101&#8217;, sef y ganolfan alwadau lle caiff ein problemau TG gwaethaf i gyd eu storio!<\/p>\n<p>Wrth i TG ddod yn fwyfwy pwysig i fusnesau bach yn y DU, gall ymadroddion megis &#8216;ydych chi wedi ceisio diffodd y cyfrifiadur a&#8217;i droi ymlaen unwaith eto?&#8217; fod yn ddiwerth ac atal gweithwyr rhag canolbwyntio ar yr hyn y maent yn ei wneud orau.<\/p>\n<p>Dangosodd astudiaeth gan BT fod tri chwarter y busnesau bach a gymerodd ran mewn arolwg yn y DU yn ddibynnol ar eu TG, ac mae ymchwil newydd yn dangos bod y rhan fwyaf o&#8217;r gweithwyr a&#8217;r perchnogion busnesau bach a gymerodd ran yn yr arolwg yn defnyddio TG yn ystod o leiaf hanner eu diwrnod gwaith.<\/p>\n<p>Er bod y busnesau hynny&#8217;n croesawu manteision technoleg, maent yn aml yn teimlo&#8217;n rhwystredig oherwydd y cyngor y maent yn ei gael pan fydd pethau&#8217;n mynd o chwith, a&#8217;r hunllef o orfod delio \u00e2 jargon desg gymorth. A dweud y gwir, mae 77 y cant o&#8217;r busnesau bach a gymerodd ran yn yr arolwg yn dibynnu&#8217;n llwyr ar y cyngor a geir gan wasanaethau o&#8217;r fath, ac eto nid yw mor hawdd ag y dylai fod i gael gafael ar y cyngor cywir ar yr adeg gywir.<\/p>\n<p>Darganfu&#8217;r ymchwil a gynhaliwyd gan BT mai&#8217;r tri ymadrodd a ddefnyddir gan ddesgiau cymorth TG ac sy&#8217;n gwylltio pobl fwyaf yn y DU yw:<\/p>\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<ol>\n<li>&#8216;Ydych chi wedi ceisio diffodd y cyfrifiadur a&#8217;i droi ymlaen unwaith eto?&#8217; (25 y cant)<\/li>\n<li>&#8216;Rydym yn ymwybodol o&#8217;ch problem ac rydym wrthi&#8217;n gweithio i&#8217;w datrys&#8217; (19 y cant)<\/li>\n<li>&#8216;Rhowch gynnig arall arni a ffoniwch fi n\u00f4l&#8217; (11 y cant)<\/li>\n<\/ol>\n<\/div>\n<\/div>\n<p>Mae perchennog busnes bach yn y gorllewin yn esbonio sut y mae camau i reoli ei systemau TG yn ofalus wedi&#8217;i galluogi i arbed amser ac adnoddau sydd bellach yn gallu cael eu defnyddio i yrru&#8217;r busnes yn ei flaen.<\/p>\n<p>&#8220;Mae cael y cyngor cywir am\u00a0fy systemau TG yn hollbwysig i sicrhau bod fy musnes yn rhedeg yn ddidrafferth. Alla i ddim fforddio gwastraffu amser yn siarad \u00e2 phobl wahanol nad ydynt yn gwybod dim am fy musnes, bob tro rwy&#8217;n ffonio desg gymorth, a does dim byd yn achosi mwy o rwystredigaeth na gorfod\u00a0aros ar y ff\u00f4n am hanner awr er mwyn i rywun ddweud wrthyf wedyn am ddiffodd y cyfrifiadur a&#8217;i droi ymlaen unwaith eto.&#8221;<\/p>\n<p>Er mwyn helpu busnesau bach i wireddu&#8217;r manteision sydd gan TG i&#8217;w cynnig, rydym yn awgrymu&#8217;r\u00a0cynghorion canlynol:<\/p>\n<div class=\"section\">\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<ul>\n<li>Pan fyddwch yn ystyried adnewyddu eich caledwedd a&#8217;ch gwasanaethau TG, sicrhewch eich bod yn gwneud eich gwaith cartref yn ofalus, yn ystyried eich cynllun busnes ac yn gosod targedau ar gyfer mesur yr\u00a0enillion ar eich buddsoddiad.<\/li>\n<li>Mynnwch\u00a0gymorth cynhwysfawr ar gyfer pob elfen o&#8217;ch systemau TG a chyfathrebu, megis diogelwch, \u00a0muriau gwarchod a gwasanaeth cymorth.<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 phrynu dyfeisiau heb fod gennych ddiben iddynt &#8211; dylech ystyried sut a phryd y gallech eu defnyddio ac ystyried sut y byddant yn eich helpu i reoli eich TG a&#8217;ch cyfathrebu&#8217;n fwy effeithlon.<\/li>\n<li>Sicrhewch eich bod yn cael gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf yn y farchnad sy&#8217;n ymwneud \u00e2 chymorth a chaledwedd, gan fod technoleg i fusnesau bach a chanolig eu maint yn datblygu\u00a0drwy&#8217;r amser.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"page\" title=\"Page 2\">\n<div class=\"section\">\n<div class=\"section\">\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<p>Nid yw gweithio wrth ddesg gymorth TG yn hawdd, oherwydd bydd y technegwyr yn aml yn gweithio dan bwysau mawr ac yn delio \u00e2 llawer o alwadau ar yr un pryd. Bob hyn a hyn, byddant yn gofyn i chi ddiffodd y cyfrifiadur a&#8217;i droi ymlaen unwaith eto, gan mai dyna&#8217;r ffordd orau o ailosod yr holl brosesau y mae&#8217;r cyfrifiadur yn eu cyflawni yn y cefndir. Yn ogystal, maent dan bwysau ychwanegol oherwydd eu bod yn ceisio datrys problem nad ydynt hyd yn oed yn gallu ei gweld. Mae technoleg newydd wedi gwella effeithiolrwydd y desgiau cymorth hyn, er enghraifft y dechnoleg sy&#8217;n galluogi technegwyr i gael mynediad o bell i leoliadau eraill.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"section\">\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<h4>Dod o hyd i&#8217;r darparwr cymorth<\/h4>\n<p>Pan ddaw hi&#8217;n fater o ddewis darparwr cymorth TG, dylech ystyried y canlynol:<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<ul>\n<li>faint o arbenigedd TG sydd gennych yn fewnol, ac a oes amser gan y bobl hynny<\/li>\n<li>pa mor bwysig yw sicrhau bod systemau&#8217;n parhau i redeg yn ddidrafferth<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<p>Mae&#8217;r gwasanaethau y mae angen eu hystyried yn cynnwys y canlynol:<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"section\">\n<div class=\"section\">\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<ul>\n<li><strong>Gosod a ffurfweddu<\/strong>\u00a0&#8211; a fydd angen i&#8217;r cyflenwr osod a ffurfweddu caledwedd a meddalwedd fel\u00a0eu bod yn gweithio&#8217;n iawn ac yn barod i&#8217;w defnyddio?<\/li>\n<li><strong>Hyfforddiant<\/strong>\u00a0&#8211;\u00a0a fydd angen hyfforddiant ar eich staff? A yw&#8217;r cyflenwr yn gallu darparu hyfforddiant?<\/li>\n<li><strong>Cymorth dros y ff\u00f4n <\/strong>&#8211;\u00a0a fydd angen cymorth dros y ff\u00f4n ar eich staff, ac yn ystod pa oriau? A yw&#8217;r cyflenwr yn darparu desg gymorth? A fyddwch chi&#8217;n talu fesul galwad neu&#8217;n talu swm sefydlog? Ai dim ond un\u00a0aelod o staff fydd yn cael ffonio, neu a fydd modd i wahanol aelodau o staff ffonio? A gaiff y cymorth hwnnw ei ddarparu o rywle yn y DU neu o dramor? Os yw&#8217;n cael ei ddarparu o dramor, a yw hynny&#8217;n effeithio ar yr adegau y bydd y cymorth ar gael oherwydd gwahaniaethau o ran amser?<\/li>\n<li><strong>Cymorth drwy\u00a0ebost<\/strong>\u00a0&#8211; a fydd cymorth drwy ebost yn ddigonol ar gyfer rhai o&#8217;ch anghenion neu&#8217;r cyfan ohonynt?<\/li>\n<li><strong>Cymorth ar-lein<\/strong>\u00a0&#8211; a yw&#8217;r cyflenwr yn cynnig sgwrs amser real ar-lein neu dechnoleg arall ar gyfer darparu cymorth? A geir fforwm cymorth gan gymheiriaid lle gall defnyddwyr eraill awgrymu atebion i broblemau?<\/li>\n<li><strong>Ymweliadau \u00e2 safle<\/strong>\u00a0&#8211; a yw&#8217;r cyflenwr yn darparu cymorth ar y safle? Os felly, faint mae&#8217;n ei gostio?<\/li>\n<li><strong>Cynnal a chadw<\/strong>\u00a0&#8211; a yw&#8217;r cyflenwr yn cynnwys ymweliadau ar gyfer cynnal a chadw systemau?<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"section\"><\/div>\n<div class=\"section\">\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<h4>Contractau, Contractau, Contractau<\/h4>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<p>Mae gwahanol gwmn\u00efau cymorth TG yn cynnig gwahanol fodelau cymorth &#8211; ni fydd unrhyw ddau gontract cymorth TG yn union yr un fath. Fodd bynnag, dylech chwilio am rai pethau a dylech ddisgwyl gweld rhai pethau. Fel rheol, dylai contractau egluro&#8217;r hyn y mae&#8217;r cwmni sy&#8217;n darparu cymorth yn ei ddisgwyl gan y sefydliad a dylent egluro cyfrifoldebau&#8217;r cwmni sy&#8217;n darparu cymorth. Dylai&#8217;r contract nodi&#8217;r wybodaeth ganlynol yn glir:<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"page\" title=\"Page 3\">\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<h5>Beth yw cyfnod y contract?<\/h5>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<p>Dylai fod yn glir pryd y bydd y contract yn dechrau ac yn gorffen, pa mor aml y byddwch yn talu&#8217;r cwmni a beth fydd yn digwydd os bydd unrhyw un ohonoch yn dymuno terfynu&#8217;r contract (er enghraifft, a allwch chi derfynu&#8217;r contract unrhyw bryd?).<\/p>\n<h5>Beth sy&#8217;n ofynnol i sicrhau bod y contract yn parhau mewn grym?<\/h5>\n<p>Gallai&#8217;r darparwr cymorth bennu rhai amodau y mae&#8217;n rhaid i&#8217;r cleient eu bodloni er mwyn sicrhau bod y contract yn parhau mewn grym. Er enghraifft:<\/p>\n<ul>\n<li>Rhaid i&#8217;r contract \/ biliau eraill gael eu talu&#8217;n llawn cyn pen\u00a0cyfnod penodol<\/li>\n<li>Rhaid datrys diffygion sy&#8217;n bodoli eisoes<\/li>\n<li>Rhaid i&#8217;r cleient sicrhau nad yw&#8217;n gwneud unrhyw newidiadau i systemau heb gael caniat\u00e2d o flaen llaw gan y cwmni sy&#8217;n darparu cymorth.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae enghreifftiau cyffredin eraill o gyfrifoldebau cleientiaid yn cynnwys y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Penodi person cyswllt a dirprwy yn y sefydliad (e.e. Rheolwr TG, Cydlynydd TG neu rywun arall sy&#8217;n bennaf gyfrifol am TG yn y sefydliad)<\/li>\n<li>Gwneud tasgau cadw t\u0177 (e.e. creu cop\u00efau wrth gefn o ffeiliau bob dydd a phrofi eu bod yn gweithio, dileu ffeiliau dros dro, dad-ddarnio disgiau caled ac ati, diffodd ac ailddechrau gweinyddion o dro i dro)<\/li>\n<li>Diogelu systemau&#8217;n ddigonol (e.e. diogelu gweinyddion \u00e2 chyflenwad trydan annhoradwy, gosod a defnyddio meddalwedd gwrthfirws a gaiff ei ddiweddaru&#8217;n wythnosol, defnyddio mur gwarchod)<\/li>\n<li>Sicrhau bod camau\u00a0sylfaenol i adnabod diffygion yn cael eu cymryd gan y person cyswllt penodedig a fydd yn bwynt cyswllt cyntaf i staff y sefydliad. Os nad oes modd datrys y broblem, dim ond yr aelod(au) o staff a enwir ddylai gysylltu \u00e2&#8217;r cwmni sy&#8217;n darparu cymorth (oni chytunwyd ar drefniant arall o flaen llaw)<\/li>\n<li>Sicrhau bod y cwmni sy&#8217;n darparu cymorth yn cael rhybudd o flaen llaw ynghylch unrhyw broblemau, cyn iddo ymweld \u00e2&#8217;r safle<\/li>\n<li>Sicrhau bod y person penodedig \/ ei ddirprwy ar gael yn ystod ymweliadau \u00e2&#8217;r safle<\/li>\n<\/ul>\n<h5>Pa gostau a sawl awr o gymorth sy&#8217;n rhan o&#8217;r contract?<\/h5>\n<p>Mae llawer o gwmn\u00efau sy&#8217;n darparu cymorth yn cynnig cymorth am nifer safonol o oriau y mae&#8217;r sefydliad yn talu o flaen llaw amdanynt. Yna, gall y sefydliad dalu swm ychwanegol am unrhyw waith arall y mae angen ei wneud, sydd y tu hwnt i&#8217;r nifer sefydlog o oriau neu rychwant y cymorth sydd wedi&#8217;i gynnwys yn y contract. Os ydych yn talu o flaen llaw am nifer sefydlog o oriau, gwiriwch a fyddwch yn gallu trosglwyddo unrhyw oriau nas defnyddiwyd i&#8217;r mis, y chwarter neu&#8217;r flwyddyn nesaf. Waeth beth yw&#8217;r strwythur prisio, dylai fod yn glir iawn faint y byddwch yn ei dalu ac am beth.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"page\" title=\"Page 4\">\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<h5>Pa offer sy&#8217;n rhan o&#8217;r contract?<\/h5>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<p>Gall y wybodaeth hon fod yn rhestr ysgrifenedig o eitemau megis cyfrifiaduron, gliniaduron, peiriannau argraffu ac ati a fydd yn rhan o&#8217;r contract cymorth. Dylai&#8217;r cyflenwr nodi&#8217;n glir a fydd y cymorth a ddarperir ganddo wedi&#8217;i gyfyngu i&#8217;r offer y mae&#8217;r cyflenwr wedi&#8217;u darparu, neu a fydd yn berthnasol hefyd i offer eraill, ac os felly pa offer. Os caiff y cymorth a ddarperir ei gyfyngu i offer o oedran penodol, dylid nodi hynny&#8217;n glir. Er enghraifft, efallai na fydd rhai cwmn\u00efau&#8217;n fodlon darparu cymorth ar gyfer rhai mathau o offer megis bysellfyrddau, llygod ac ati sydd dros bedair blwydd oed. Yn aml gall y gost o ddarparu cymorth, yn rhan o&#8217;r contract, ar gyfer caledwedd pob cyfrifiadur fod yn afresymol i sefydliadau llai o faint, yn enwedig gan mai prin yw&#8217;r achosion lle ceir diffygion ar galedwedd cyfrifiaduron. Efallai y byddwch am i&#8217;r contract ymdrin \u00e2 phethau megis gweinyddion a pheiriannau argraffu&#8217;n unig, ac y byddwch am dalu wrth fynd am ddatrys diffygion ar galedwedd cyfrifiaduron, wrth i&#8217;r diffygion hynny godi.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"page\" title=\"Page 3\">\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<h5>Pa feddalwedd sy&#8217;n rhan o&#8217;r contract?<\/h5>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<p>Os oes gennych rwydwaith gweinydd\/cleient, byddwch am sicrhau bod y cwmni sy&#8217;n darparu cymorth yn darparu cymorth ar gyfer meddalwedd cyffredin gweinyddion, megis Linux,\u00a0Microsoft Exchange Server 2000, Internet Security, Microsoft Small Business Edition, a meddalwedd gwrthfirws sydd wedi&#8217;i osod ar y gweinydd, e.e. ESET, McAfee a Netshield ac ati. Waeth a oes gennych rwydwaith gweinydd\/cleient neu beidio, efallai y byddwch hefyd am gael rhywfaint o gymorth ar gyfer meddalwedd cyffredin bwrdd gwaith, e.e. meddalwedd system weithredu (e.e. Windows 98\/2000\/XP),\u00a0Microsoft Office, Open Office, meddalwedd gwrthfirws ac ati.<\/p>\n<h5>Pa dasgau sy&#8217;n rhan o&#8217;r contract?<\/h5>\n<p>Dylai&#8217;r contract cymorth nodi&#8217;n glir pa dasgau a fydd wedi&#8217;u cynnwys ynddo. Er enghraifft, ymweliadau misol \u00e2&#8217;r safle i ffurfweddu&#8217;r rhwydwaith a&#8217;i gynnal a&#8217;i gadw, cymorth dros y ff\u00f4n, cymorth o bell, gwaith gosod meddalwedd, gwaith gosod caledwedd neu gydrannau newydd yn lle hen rai sydd wedi methu, gwaith adfer seilwaith a systemau ar \u00f4l trychineb ac ati.<\/p>\n<h5>A gaiff cymorth ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr o bell \/ defnyddwyr yn eu cartrefi?<\/h5>\n<p>Wrth i fwyfwy o bobl achub ar gyfleoedd i weithio oriau hyblyg, mae&#8217;n debygol y bydd cymorth o&#8217;r fath\u00a0yn mynd yn fwyfwy pwysig. Os oes angen i chi ddarparu cymorth ar gyfer defnyddwyr yn eu cartrefi, sicrhewch fod eich darparwr cymorth TG arfaethedig yn gallu gwneud hynny am bris y gallwch ei fforddio.<\/p>\n<h5>Beth yw&#8217;r amserau ymateb?<\/h5>\n<p>Mae llawer o gwmn\u00efau sy&#8217;n darparu cymorth yn cynnig gwahanol amserau ymateb, yn dibynnu ar y broblem. Er enghraifft, efallai y byddant yn cynnig ymateb cyn pen 4 awr i broblemau gyda&#8217;r gweinydd, ac yn cynnig amserau ymateb hwy ar gyfer problemau sy&#8217;n ymwneud \u00e2 gweithfannau. Yn gyffredinol, po fyrraf yw&#8217;r amser ymateb, ucha&#8217;n y byd y mae&#8217;r gost yn debygol o fod. Bydd angen i&#8217;ch sefydliad benderfynu beth yw&#8217;r gost uchaf a fyddai&#8217;n dderbyniol. Mae&#8217;n debyg y byddwch am gael ymateb cyn pen 4 awr i unrhyw fethiannau sy&#8217;n effeithio ar eich busnes craidd (e.e. gweinydd neu ebost yn methu). Mae&#8217;n bwysig cofio mai amserau ymateb yw&#8217;r rhain, ac nad yw&#8217;r cwmni&#8217;n gwarantu mai dyna&#8217;r amser y bydd yn ei gymryd i ddatrys y broblem. Bydd rhai cwmn\u00efau sy&#8217;n darparu cymorth hefyd yn cynnig &#8220;amser trwsio&#8221; a gaiff ei warantu, e.e. 8 awr ar \u00f4l y cyfnod ymateb gwreiddiol.<\/p>\n<h5>Beth yw&#8217;r broses ar gyfer cofnodi ceisiadau am gymorth?<\/h5>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"page\" title=\"Page 5\">\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<p>Er enghraifft, efallai y bydd\u00a0angen i chi ffonio rhif penodol yn ystod oriau penodol, ac efallai y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth safonol megis disgrifiad manwl o&#8217;r broblem, unrhyw negeseuon ynghylch gwallau ac ati. Efallai y bydd angen i geisiadau am gymorth gael eu cyflwyno gan berson penodedig neu&#8217;i ddirprwy&#8217;n unig.<\/p>\n<h5>Beth yw&#8217;r broses ar gyfer ymateb i geisiadau am gymorth?<\/h5>\n<p>Er enghraifft, gallai&#8217;r cwmni sy&#8217;n darparu cymorth ddilyn y camau canlynol:<\/p>\n<ol>\n<li>Ceisio datrys y broblem dros y ff\u00f4n &#8211; efallai y bydd y cwmni&#8217;n gosod cyfyngiad amser ar hynny, er enghraifft os na fydd y broblem wedi&#8217;i datrys cyn pen 15 munud efallai y bydd cymorth mwy dwys yn cael ei ddarparu,\u00a0sy&#8217;n perthyn i&#8217;r lefel nesaf<\/li>\n<li>Ceisio datrys y broblem drwy gael mynediad o bell &#8211; efallai y bydd yn ofynnol i chi adael i&#8217;r cwmni sy&#8217;n darparu cymorth gael mynediad o bell i&#8217;ch gweinydd a&#8217;ch cyfrifiaduron. Ac os nad yw hynny&#8217;n gweithio:<\/li>\n<li>Trefnu ymweliad \u00e2&#8217;r safle<\/li>\n<\/ol>\n<p>Yn ogystal, dylai&#8217;r contract nodi&#8217;r broses ar gyfer dwys\u00e1u cymorth neu ymdrin ag achosion brys.<\/p>\n<p>Un broblem i lawer o bobl, wrth ddelio \u00e2 chwmn\u00efau sy&#8217;n darparu cymorth TG, yw eu cael i ddwys\u00e1u&#8217;r cymorth o fod yn gymorth dros y ff\u00f4n i fod yn gymorth sy&#8217;n perthyn i&#8217;r lefel nesaf &#8211; mynediad o bell neu hyd yn oed ymweliad \u00e2&#8217;r safle. Yn gyffredinol, byddant yn disgwyl i chi wneud mwy nag y byddech efallai&#8217;n dymuno neu&#8217;n gallu ei wneud i ddatrys y broblem, oherwydd mae&#8217;r gwahaniaeth rhwng cost siarad ar y ff\u00f4n a chost ymweld \u00e2&#8217;ch safle yn enfawr i&#8217;r cyflenwr.<\/p>\n<p>Er mwyn lleihau&#8217;r broblem hon:<\/p>\n<ul>\n<li>Dylech benodi un person yn eich sefydliad i fod yn bwynt cyswllt \u00e2&#8217;r cwmni sy&#8217;n darparu cymorth TG. Bydd hynny&#8217;n sicrhau mwy o gysondeb o ran cyfathrebu ac yn arwain at ddatrys y broblem TG yn gynt yn gyffredinol.<\/li>\n<li>Dylech sicrhau bod y Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn cynnwys y broses a&#8217;r amgylchiadau a fydd yn\u00a0arwain at ddwys\u00e1u cymorth, a&#8217;i fod yn cynnwys manylion y sawl sy&#8217;n gallu gofyn i&#8217;r cymorth gael ei ddwys\u00e1u.<\/li>\n<li>Dylech sicrhau bod gennych gopi o&#8217;r Cytundeb Lefel Gwasanaeth er mwyn gallu dyfynnu&#8217;r broses y cytunwyd arni os bydd angen cyflwyno achos dros ddwys\u00e1u&#8217;r cymorth.<\/li>\n<li>Dylech sicrhau eich bod wedi cyflawni eich gofynion chi o ran cymorth TG, a nodir yn y\u00a0Cytundeb Lefel Gwasanaeth.<\/li>\n<li>Dylech fonitro a chofnodi&#8217;r hyn y mae&#8217;r cwmni sy&#8217;n darparu cymorth TG yn ei wneud i gynnal eich TG dros gyfnod y contract, oherwydd bydd hynny&#8217;n darparu tystiolaeth ar gyfer adolygiad pan gaiff y contract ei adnewyddu.<\/li>\n<\/ul>\n<h5>Pa bethau a gaiff eu heithrio o&#8217;r contract?<\/h5>\n<p>Bydd rhai pethau o hyd na fydd y contract cymorth yn ymdrin \u00e2 nhw. Er enghraifft, ni fydd llawer o gwmn\u00efau cymorth yn fodlon i&#8217;r gwaith o lanhau system ar \u00f4l iddi gael ei heintio gan firws fod yn rhan o&#8217;r contract arferol. Bydd yn rhaid i chi dalu&#8217;n ychwanegol am y gwasanaeth hwnnw. Mae&#8217;r pethau eraill a fydd yn aml yn cael eu heithrio o gontractau cymorth arferol yn cynnwys y canlynol:<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"page\" title=\"Page 6\">\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<ul>\n<li>Newidiadau sy&#8217;n golygu bod angen ymweld \u00e2&#8217;r safle, e.e. gosod peiriannau argraffu neu gyfrifiaduron newydd, ychwanegu defnyddwyr newydd at y rhwydwaith<\/li>\n<li>Cymorth ar gyfer meddalwedd arbenigol, e.e. meddalwedd sy&#8217;n ymwneud \u00e2 chyfrifyddu, creu gwefannau, cyhoeddi bwrdd gwaith, ymdrin \u00e2&#8217;r gyflogres ac ati<\/li>\n<li>Rhai offer h\u0177n, e.e. unrhyw beth sydd dros 5 mlwydd oed pan fydd y contract yn dechrau<\/li>\n<li>Diffygion sy&#8217;n bodoli eisoes<\/li>\n<li>Tasgau cynnal a chadw sylfaenol arferol megis dad-ddarnio disgiau caled, glanhau pennau t\u00e2p ac ati<\/li>\n<li>Gwaith gosod cydrannau newydd yn lle rhai sydd wedi methu ar offer nas cyflenwyd gan y cwmni sy&#8217;n darparu cymorth<\/li>\n<li>Gwaith diweddaru systemau<\/li>\n<li>Difrod damweiniol \/ camddefnydd o offer<\/li>\n<li>Problemau sy&#8217;n codi oherwydd &#8220;addasiadau&#8221; a wnaed gan y cleient.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn ogystal, gallai contractau cymorth nodi gweithredoedd eraill a fyddai&#8217;n gwneud y contract yn annilys, er enghraifft os gwnaed newidiadau i galedwedd neu feddalwedd heb gael caniat\u00e2d o flaen llaw gan y cwmni sy&#8217;n darparu cymorth. Mae hynny oherwydd bod rhai newidiadau&#8217;n gallu achosi effeithiau andwyol i&#8217;r system yn gyffredinol.<\/p>\n<h5>Beth yw&#8217;r weithdrefn ar gyfer datrys cwynion ac anghydfodau?<\/h5>\n<p>Mae&#8217;n anochel y bydd cwynion o bryd i&#8217;w gilydd ynghylch y cwmni sy&#8217;n darparu cymorth. Dylai&#8217;r contract egluro beth yw&#8217;r weithdrefn ar gyfer cyflwyno cwynion ynghylch y cwmni a&#8217;u datrys. Yn yr achosion (prin, gobeithio) lle nad oes modd datrys problemau, dylai darpariaeth fod ar gael yn ddelfrydol ar gyfer defnyddio gwasanaeth cymodi annibynnol os bydd popeth arall wedi methu.<\/p>\n<h5>Beth yw&#8217;r pethau eraill y dylid eu gwirio?<\/h5>\n<p>Dylai contractwyr sy&#8217;n darparu cymorth sicrhau bod ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, wrth gwrs. Yn ogystal, dylech wirio sut y caiff ansawdd y gwaith ei fonitro. Yn gyffredinol hefyd, ceir datganiad sy&#8217;n nodi y bydd y contract yn cael ei reoli gan Gyfraith Cymru (a\/neu Gyfraith berthnasol arall). Os nad ydych yn deall unrhyw elfen o&#8217;r contract yn iawn, byddai&#8217;n werth gofyn am eglurhad ysgrifenedig gan y contractwr.<\/p>\n<p><a class=\"cta\">I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch info@telemat.co.uk<\/a><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae busnesau bach a chanolig eu maint yn y DU am anfon yr ymadroddion a ddefnyddir gan ddesgiau cymorth TG<a class=\"moretag\" \n\thref=\"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/\">&#8230;Read More<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":45,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1441","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cymorth pan fo arnoch ei angen fwyaf - Telemat<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cymorth pan fo arnoch ei angen fwyaf - Telemat\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae busnesau bach a chanolig eu maint yn y DU am anfon yr ymadroddion a ddefnyddir gan ddesgiau cymorth TG...Read More\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Telemat\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2014-12-11T10:21:34+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2015-02-02T14:35:21+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Bryan Larkin\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Bryan Larkin\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"14 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Bryan Larkin\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/c8299861280ff9c65aace397ebb43b00\"},\"headline\":\"Cymorth pan fo arnoch ei angen fwyaf\",\"datePublished\":\"2014-12-11T10:21:34+00:00\",\"dateModified\":\"2015-02-02T14:35:21+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\\\/\"},\"wordCount\":3085,\"commentCount\":0,\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\\\/\",\"name\":\"Cymorth pan fo arnoch ei angen fwyaf - Telemat\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/#website\"},\"datePublished\":\"2014-12-11T10:21:34+00:00\",\"dateModified\":\"2015-02-02T14:35:21+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/c8299861280ff9c65aace397ebb43b00\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\\\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cymorth pan fo arnoch ei angen fwyaf\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/\",\"name\":\"Telemat\",\"description\":\"y dechnoleg, y wybodaeth\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/c8299861280ff9c65aace397ebb43b00\",\"name\":\"Bryan Larkin\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/6dfdef4bdc6d371d1995a36d380945493ae865f750c74b72a63012921895a15d?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/6dfdef4bdc6d371d1995a36d380945493ae865f750c74b72a63012921895a15d?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/6dfdef4bdc6d371d1995a36d380945493ae865f750c74b72a63012921895a15d?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Bryan Larkin\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/author\\\/anturcymrusocial\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cymorth pan fo arnoch ei angen fwyaf - Telemat","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cymorth pan fo arnoch ei angen fwyaf - Telemat","og_description":"Mae busnesau bach a chanolig eu maint yn y DU am anfon yr ymadroddion a ddefnyddir gan ddesgiau cymorth TG...Read More","og_url":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/","og_site_name":"Telemat","article_published_time":"2014-12-11T10:21:34+00:00","article_modified_time":"2015-02-02T14:35:21+00:00","author":"Bryan Larkin","twitter_misc":{"Written by":"Bryan Larkin","Est. reading time":"14 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/"},"author":{"name":"Bryan Larkin","@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/#\/schema\/person\/c8299861280ff9c65aace397ebb43b00"},"headline":"Cymorth pan fo arnoch ei angen fwyaf","datePublished":"2014-12-11T10:21:34+00:00","dateModified":"2015-02-02T14:35:21+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/"},"wordCount":3085,"commentCount":0,"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/","url":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/","name":"Cymorth pan fo arnoch ei angen fwyaf - Telemat","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/#website"},"datePublished":"2014-12-11T10:21:34+00:00","dateModified":"2015-02-02T14:35:21+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/#\/schema\/person\/c8299861280ff9c65aace397ebb43b00"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/cymorth-pan-fo-arnoch-ei-angen-fwyaf\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cymorth pan fo arnoch ei angen fwyaf"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/","name":"Telemat","description":"y dechnoleg, y wybodaeth","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/#\/schema\/person\/c8299861280ff9c65aace397ebb43b00","name":"Bryan Larkin","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/6dfdef4bdc6d371d1995a36d380945493ae865f750c74b72a63012921895a15d?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/6dfdef4bdc6d371d1995a36d380945493ae865f750c74b72a63012921895a15d?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/6dfdef4bdc6d371d1995a36d380945493ae865f750c74b72a63012921895a15d?s=96&d=mm&r=g","caption":"Bryan Larkin"},"url":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/author\/anturcymrusocial\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1441","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/45"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1441"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1441\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1441"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1441"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1441"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}