{"id":1046,"date":"2014-12-11T17:27:02","date_gmt":"2014-12-11T17:27:02","guid":{"rendered":"http:\/\/www.telemat.co.uk\/case-study-3g-wireless-broadband-2\/"},"modified":"2014-12-18T16:21:15","modified_gmt":"2014-12-18T16:21:15","slug":"astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/","title":{"rendered":"Astudiaeth achos: Band eang 3G di-wifr"},"content":{"rendered":"<div class=\"page\" title=\"Page 1\">\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<h2>Aled yn mwynhau manteision band eang wrth gofrestru gwartheg<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft size-full wp-image-716\" src=\"http:\/\/www.telemat.co.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/11\/aled1.jpg\" alt=\"Photograph of Aled Rees\" width=\"250\" height=\"200\" \/>I Aled Rees, mae colli amser yn golygu colli arian, a gan mai ffermwr ydyw byddai&#8217;n si\u0175r o ddadlau nad oes ganddo ddigon o&#8217;r naill na&#8217;r llall! Fodd bynnag, mae&#8217;n cyfaddef bod angen iddo wneud y gorau o&#8217;r hyn sydd ganddo ac, er mwyn bod yn gystadleuol, bod angen iddo allu cael gafael ar wybodaeth yn sydyn. Diolch i&#8217;r drefn, mae&#8217;n gallu gwneud hynny bellach ers i fand eang 3G di-wifr gael ei osod yn Fferm Trefere Fawr, Aberteifi, sef canolbwynt ei fusnes teuluol. Ond nid oedd pethau mor hawdd \u00e2 hynny o&#8217;r blaen.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>\u201cWrth gofrestru lloi ar system olrhain\u00a0gwartheg y Llywodraeth, drwy Borth y Llywodraeth, roedd yn anodd iawn cael cysylltiad digon sefydlog \u00e2&#8217;r rhyngrwyd drwy ein cysylltiad deialu. Gallai gymryd hyd at 20 munud i gofrestru un llo, ac roedd data&#8217;n cael ei golli&#8217;n aml ar hyd y gwifrau.<\/p>\n<p>\u201cGan fod y cysylltiad deialu hwnnw&#8217;n defnyddio&#8217;r llinell ff\u00f4n, cefais sioc ofnadwy pan gyrhaeddodd y bil ff\u00f4n cyntaf. Roedd y costau bron wedi treblu a dyna pryd y bu&#8217;n rhaid i fi, fel llawer o ffermwyr eraill, fynd yn \u00f4l i gofrestru lloi ar bapur.&#8221;<\/p>\n<p>Roedd Trefere Fawr ben pellaf llinell ff\u00f4n y gyfnewidfa leol, a byddai wedi costio crocbris i gael band eang drwy&#8217;r llinell ff\u00f4n. Ar ben hynny, nid oedd gan BT unrhyw gynlluniau i osod band eang yno yn y dyfodol agos. Diolch i&#8217;r drefn, roedd ateb ar gael, a hwnnw&#8217;n ateb rhad, oherwydd roedd modd i Aled a&#8217;i deulu fanteisio ar fenter Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy&#8217;n galluogi busnesau a chartrefi i gael hyd at \u00a31,000 o gymorth i osod seilwaith er mwyn cael gwasanaeth band eang cyflymach.<\/p>\n<p>Aeth Aled at Telemat Ltd., sef cwmni lleol sy&#8217;n arbenigo mewn darparu cymorth a chyfleusterau TG, a chyn pen dim o dro roedd erial bach ac ambell ddyfais arall wedi&#8217;u gosod yn eu lle ac roedd band eang wedi cyrraedd y fferm.<\/p>\n<p>\u201cGofalodd Telemat am y broses gyfan a oedd yn cynnwys rhoi cyngor ynghylch y dechnoleg, cael gafael ar y cymorth ariannol a gosod y dechnoleg yn ddidrafferth, ac o gymharu \u00e2 band eang traddodiadol drwy&#8217;r llinell ff\u00f4n mae&#8217;r dechnoleg hon yn gystadleuol o ran pris hefyd.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Aled a&#8217;i wraig, Hedydd yn rhedeg busnes contractio prosesu grawn ochr yn ochr \u00e2&#8217;u busnes llaeth organig, ond ers i fand eang 3G gael ei osod ar y fferm 600 erw, mae bywyd y teulu wedi&#8217;i drawsnewid. Gall Aled gael cydrannau sb\u00e2r neu ddyfynbrisiau dros y rhyngrwyd ac mae&#8217;r plant, Delor ac Owain, yn llawer hapusach hefyd gan eu bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth sy&#8217;n eu cynorthwyo gyda&#8217;u gwaith ysgol.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"page\" title=\"Page 2\">\n<div class=\"layoutArea\">\n<div class=\"column\">\n<p>\u201cMae&#8217;r cyngor a&#8217;r cymorth a gawsom gan Telemat Ltd. wedi bod yn ardderchog, ac roedd gen i ffydd yn y cwmni gan fod Clive Davies ei hun yn fab i ffermwr a&#8217;i fod yn gallu deall fy sefyllfa&#8217;n iawn. Roedd y grant yn help mawr hefyd, wrth gwrs. Mae gan Clive Davies, rheolwr Telemat Ltd. yng Nghastellnewydd Emlyn, brofiad helaeth o ymdrin \u00e2&#8217;r problemau a&#8217;r rhwystredigaethau yr oedd Aled a&#8217;i deulu&#8217;n eu hwynebu.<\/p>\n<p>\u201cDoedden nhw ddim yn wahanol i fusnesau a chartrefi eraill, yn enwedig busnesau a chartrefi mewn ardaloedd gwledig yn y gorllewin, ond diolch i&#8217;r drefn, mae busnesau sy&#8217;n cael eu gadael ar \u00f4l ar hyn o bryd yn gallu trawsnewid y ffordd y maent yn gweithio, drwy gael gafael ar y dechnoleg hon heb orfod talu fawr ddim amdani,&#8221; meddai Clive Davies.<\/p>\n<p>&#8220;Rydym wedi gweld bod busnesau a chartrefi ym mwyafrif yr ardaloedd rydym wedi bod yn gweithio ynddynt wedi llwyddo i gynyddu cyflymder eu band eang yn sylweddol drwy fand eang 3G symudol &#8211; ac mae ein cleientiaid wedi gallu cael band eang \u00e2 chyflymder sydd rhwng 1Mb a 3Mb.<\/p>\n<p>\u201cMae rhannau o gefn gwlad Cymru yn dal heb wasanaeth band eang drwy linell ff\u00f4n oherwydd eu pellter o&#8217;r gyfnewidfa. Un ateb yw band eang symudol (3G), a gall busnesau a chartrefi gael hyd at \u00a31,000 o gymorth i osod seilwaith er mwyn cael gwasanaeth band eang cyflymach.<\/p>\n<p>\u201cDydyn ni ddim yn gwybod am faint y bydd arian cyhoeddus ar gael i&#8217;w fuddsoddi mewn seilwaith, felly mae&#8217;n amlwg mai nawr yw&#8217;r amser i weithredu.\u201d<\/p>\n<p><a class=\"cta\">I gael rhagor o wybodaeth am 3G, ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch info@telemat.co.uk<\/a><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Aled yn mwynhau manteision band eang wrth gofrestru gwartheg I Aled Rees, mae colli amser yn golygu colli arian, a<a class=\"moretag\" \n\thref=\"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/\">&#8230;Read More<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":1176,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-1046","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Astudiaeth achos: Band eang 3G di-wifr - Telemat<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Astudiaeth achos: Band eang 3G di-wifr - Telemat\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Aled yn mwynhau manteision band eang wrth gofrestru gwartheg I Aled Rees, mae colli amser yn golygu colli arian, a...Read More\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Telemat\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2014-12-18T16:21:15+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"http:\/\/www.telemat.co.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/11\/aled1.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"4 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/about-telemat\\\/case-studies\\\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/about-telemat\\\/case-studies\\\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\\\/\",\"name\":\"Astudiaeth achos: Band eang 3G di-wifr - Telemat\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/about-telemat\\\/case-studies\\\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/about-telemat\\\/case-studies\\\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"http:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2014\\\/11\\\/aled1.jpg\",\"datePublished\":\"2014-12-11T17:27:02+00:00\",\"dateModified\":\"2014-12-18T16:21:15+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/about-telemat\\\/case-studies\\\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/about-telemat\\\/case-studies\\\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/about-telemat\\\/case-studies\\\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\\\/#primaryimage\",\"url\":\"http:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2014\\\/11\\\/aled1.jpg\",\"contentUrl\":\"http:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2014\\\/11\\\/aled1.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/about-telemat\\\/case-studies\\\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Amdanom Ni\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/about-telemat\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Astudiaethau Achos\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/cy\\\/about-telemat\\\/case-studies\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Astudiaeth achos: Band eang 3G di-wifr\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/\",\"name\":\"Telemat\",\"description\":\"y dechnoleg, y wybodaeth\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.telemat.co.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Astudiaeth achos: Band eang 3G di-wifr - Telemat","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Astudiaeth achos: Band eang 3G di-wifr - Telemat","og_description":"Aled yn mwynhau manteision band eang wrth gofrestru gwartheg I Aled Rees, mae colli amser yn golygu colli arian, a...Read More","og_url":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/","og_site_name":"Telemat","article_modified_time":"2014-12-18T16:21:15+00:00","og_image":[{"url":"http:\/\/www.telemat.co.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/11\/aled1.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"4 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/","url":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/","name":"Astudiaeth achos: Band eang 3G di-wifr - Telemat","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"http:\/\/www.telemat.co.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/11\/aled1.jpg","datePublished":"2014-12-11T17:27:02+00:00","dateModified":"2014-12-18T16:21:15+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/#primaryimage","url":"http:\/\/www.telemat.co.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/11\/aled1.jpg","contentUrl":"http:\/\/www.telemat.co.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/11\/aled1.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/astudiaeth-achos-band-eang-3g-di-wifr\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Amdanom Ni","item":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Astudiaethau Achos","item":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/about-telemat\/case-studies\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Astudiaeth achos: Band eang 3G di-wifr"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/","name":"Telemat","description":"y dechnoleg, y wybodaeth","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1046","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1046"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1046\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1176"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.telemat.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1046"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}