
Mae deall sut mae technoleg gwybodaeth wedi datblygu i fod yn sylfaen ar gyfer twf yn hollbwysig i fusnesau. Gall wella gwasanaeth cwsmer yn ogystal â sicrhau bod prosesau busnes a rheoli data yn rhedeg yn esmwyth.
Dyma rai syniadau sut y gall eich busnes elwa trwy ddefnyddio technoleg:
1. Cynyddu effeithlonrwydd trwy dechnoleg.
Mae rhaglenni di-ri ar gael ar gyfer busnesau bach i helpu gwella effeitholonrwydd – a rhai yn rhad ac am ddim. Un ohonynt yw Dropbox sy’n eich galluogi i storio ffeiliau ar-lein; Any Meeting ar gyfer cynnal seminar- y- wê (webinar); Basecamp a Trello ar gyfer rheoli prosiectau a nodi dyddiadau pwysig. Hootsuite a Buffer i amserlennu eich cynllun cyfryngau cymdeithasol ar gyfer hyrwyddo eich cynigion. (Cofiwch wneud eich gwaith ymchwil er mwyn dewis y rhaglen orau ar gyfer eich gofynion chi)
2. Creu rhestr cysylltiadau.
Dyma un o’r adnoddau pwysicaf ar gyfer darparwyr twristiaeth. Mae pob enw a chyfeiriad e-bost yn adnodd gwerthfawr iawn. Oes gennych chi restr? Mae angen i chi greu un nawr. Dyma ffyrdd o gasglu enwau a gwybodaeth cyswllt:
- Gwnewch yn siŵr fod dolen ar eich gwefan ar gyfer tanysgrifio at gylchlythyr.
- Hyfforddi’ch staff i annog cwsmeriaid i ychwanegu eu henwau i’r rhestr gyswllt.
- Casglwch wybodaeth bersonol o wahanol bwyntiau cyswllt yn enwedig wrth y til. Peidiwch anghofio am eich cwsmeriaid ar-lein.
- Beth am gynnal cystadleuaeth tebyg i raffl gan ddefnyddio gwybodaeth am gwsmeriaid a gasglwyd ar gardiau wedi eu cynllunio’n arbennig.
- Rhowch nodyn wrth y till i hwyluso’r broses o arwyddo’r rhestr cysylltiadau.
- Cynigwch rywbeth am ddim i bobol er mwyn eu hannog i rannu manylion personol
- Cynigwch ostyngiad i’w hannog i’ch dilyn ar wefannau cymdeithasol.
3. Dyfodol di-wifr.
Mae 1 o bob 10 person yn gadael lleoliad oherwydd nad oes gwasanaeth di-wifr yn yr adeilad. Mae’n hanfodol i fusnesau gynnig di-wifr er mwyn cyflenwi anghenion cwsmeriaid. Os nad y’ch chi’n cynnig di-wifr ar hyn o bryd – mi ddylech chi. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i gasglu mwy o wybodaeth am eich cwsmeriaid – eu hychwanegu at eich rhestr gysylltiadau neu drwy eu hannog i arwyddo ar Facebook. Cewch ystadegau a gwybodaeth defnyddiol amdanynt gan Facebook hefyd. Gall yr holl wybodaeth y’ch chi’n casglu drawsnewid eich busnes.
4. Band llydan cyflym iawn – mae ei angen!
Heb y gallu cyflym hwn mae’n anodd iawn i fusnesau rannu cynnwys aml-gyfrwng – sydd mor boblogaidd ar wefannau cymdeithasol – gyda’u cwsmeriaid. Yn ogystal â sicrhau cysylltiad cyflymach trwy fand llydan effeithiol, mae busnesau’n deall yr angen i ymestyn eu gallu i greu cysylltiadau â’u cwsmeriaid trwy dechnoleg yn cynnwys datblygu app ac ati.
5. Y Cwmwl sy’n arwain y ffordd.
Gall y rhan fwyaf o wasanaethau gael eu rhedeg drwy’r Cwmwl. Yn hytrach na bod eich data a’ch rhaglenni’n cael eu storio ar gyfrifiadur yn eich cartref neu swyddfa, cânt eu storio ar rwydwaith o gyfrifiaduron ar y rhyngrwyd. Bydd dim angen talu am offer ddrud – dim ond am yr hyn sydd wir angen arnoch. Gallwch ddefnyddio’r Cwmwl hefyd fel llwyfan ar gyfer eich holl wasanaethau cyfrifiadurol – eich ebost, cyfrifon, calendr, system cysylltu â’r cwsmer a system EPOS.
Deiagnostig Rhad Ac Am Ddim Trwy Gydol Yr Haf
Ydych chi’n cael problemau gyda’ch cyfrifiadur? Mae Telemat wrth law. Mae methu cysylltu â chwsmeriaid yn gallu bod yn gostus a mae Telemat yn awyddus i sicrhau nad yw’n digwydd yn rhy aml i chi. Cysylltwch â ni er mwyn trefnu diagnostig rhad ac am ddim. Ry’ ni’n hapus os y’ch chi’n hapus!
Cliciwch yma am wybodaeth bellach