
Mae Band Eang Cyflym ar flaen tafod pawb. Ond beth yw e? A sut y gall Band Eang Cyflym helpu eich busnes?
Creu cysylltiadau yw prif bwrpas busnes. Gall Band Eang Cyflym agor drysau i gyfleoedd newydd a chynnig syniadau ar sut i gysylltu â chwsmeriaid newydd. Mae’n galluogi busnesau i fabwysiadu technolegau newydd a all yn eu tro arbed arian, lleihau costau a chynyddu elw.
Dyma rai o’r buddion y gallwch ddisgwyl o fabwysiadu band eang cyflym iawn:
1. Cynyddu cynhyrchiant
Mae band eang cyflym iawn yn hanfodol bwysig ar gyfer cynyddu cynhyrchiant. Mae’n hwyluso gweithio’n hyblyg ac yn galluogi staff i weithio o wahanol leoliadau – sy’n gwella cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd y cartref. Gall leihau ar absenoldeb a gwella morál.
2. Arbed arian
Bydd gosod band eang cyflym iawn yn eich galluogi i ddefnyddio ystod o wasanaethau cyfrifiadura’r cwmwl. Bydd hyn yn lleihau eich costau ar:
- systemau Technoleg Gwybodaeth,
- gostau teithio drwy ddefnyddio system cynadledda fideo
- gostau ffôn gan ddefnyddio VOIP
- gostau’n ymwneud ag adeiladau trwy hwyluso gweithio’n hyblyg.
3. Cynyddu effeithlonrwydd
Mae Band eang cyflym iawn yn rhoi llwyfan mwy dibynadwy a sefydlog ar gyfer defnyddwyr lluosog s’yn rhannu’r un cysylltiad. Mae’n hwyluso gweithio ar y cyd rhwng gweithwyr a chleientiaid. Mae cwsmeriaid heddiw yn disgwyl dod o hyd i wybodaeth gyfredol yn syth. Mae lan-lwytho gwybodaeth o’r wefan yn cymryd eiliadau gyda band eang cyflym iawn yn hytrach nag oriau!
4. Dileu ffiniau.
Gallwch fasnachu gydag unrhywun yn unrhyle. Gallwch weithio o gartref neu o unrhyw leoliad y tu allan i’r swyddfa gan fod y rhwydweithiau wedi eu hintegreiddio ar draws pob dyfais.
5. Cynyddu a chadw teyrngarwch
Mae dadansoddi manwl yn eich galluogi i gyfathrebu â’ch cwsmeriaid ar adeg pan fyddant yn fwyaf tebygol o brynu . Mae cynnig band eang cyflym-iawn ar eich safle yn fodd i ddenu cwsmeriaid newydd , cynyddu boddhad cwsmeriaid ac annog cwsmeriaid i ddod yn ôl yn amlach. Gallwch annog cwsmeriaid i fewngofnodi i’ch system di-wifr drwy Facebook. Mae hyn yn eich galluogi i gasglu data am eich cynulleidfa .
6. Cynyddu elw
Llai o gostau a mwy o gyswllt â chwsmeriaid yn golygu mwy o elw.
7. Eich bys ar y pyls
Cewch y feddalwedd ddiweddaraf i’ch busnes drwy’r cwmwl, yn ogystal â’r gallu i safio data’n gyflym felly’n osgoi problemau diogelwch ac uwchraddio.
8. Gwasanaeth cwsmer o’r radd flaenaf
Mae band eang cyflym iawn yn ei gwneud yn haws i chi i gyrraedd marchnadoedd newydd , targedu cwsmeriaid newydd a thyfu eich brand. Mae cynadledda fideo a chyfryngau cymdeithasol yn ffyrdd cost effeithiol o gysylltu â’ch cwsmeriaid a chyflenwyr .
9. Diogelwch eich hasedau
Diogelwch eich cwsmeriaid, eich cynnyrch a’ch data yn hyderus trwy ddefnyddio gwasanaethau cyfrifiadura’r cwmwl.
10. Helpu’r amgylchedd
Mae llai o deithio i’r swyddfa a chyfarfodydd wyneb- yn- wyneb yn golygu lleihau ar ôl-troed carbon a’r defnydd o danwydd. Mae newid i rhith-weinyddwr a’r cwmwl yn golygu llai o angen ar gyfer gweinyddion – sy’n defnyddio cryn dipyn o ynni – ym mhob swyddfa tra bod rhith-rwydweithiau preifat yn caniatau i’ch cyfrifiaduron gael eu cynnal-a-chadw o bell gan leihau ar y defnydd o ynni yn ogystal ag arbed arian a diogelu’r amgylchedd .
Am fanylion pellach ac adnoddau rhad ac am ddim ewch i wefan Cyflymu Cymru a Chyflymu Cymru i Fusnesau.