Pum ffordd o aros yn ddiogel ar rwydweithiau cymdeithasol

Mae rhwydweithiau cymdeithasol yn hollbresennol, ond nid ydynt bob amser yn ddiogel.

 

Dyma rai cynghorion ynghylch aros yn ddiogel ar-lein.

Heb os, mae busnesau’n dechrau dod yn gyfarwydd â manteision integreiddio rhwydweithiau cymdeithasol yn y gweithle – yn enwedig wrth iddynt ddechrau cyflogi brodorion digidol iau. Fodd bynnag, ymosodiadau ar y we yw prif gyfrwng gweithgarwch maleisus dros y rhyngrwyd bellach, ac mae llawer o’r ymosodiadau hyn yn deillio’n fwyfwy aml o rwydweithiau cymdeithasol megis Facebook, Twitter a YouTube.

Drwy guddio y tu ôl i’r enw da a’r ymddiriedaeth mewn brand, sydd wedi’u meithrin gan rwydweithiau cymdeithasol cyfreithlon, gall sbamwyr rannu nifer gynyddol o negeseuon ebost maleisus a negeseuon gwe-rwydo, sy’n rhywbeth a fydd yn siŵr o dyfu gydag amser yn ôl gwaith ymchwil diweddar.

Gan fod gweithwyr yn defnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol yn fwyfwy aml ar eu cyfrifiaduron a’u gliniaduron busnes, gall unrhyw ymosodiad drwy blatfformau rhwydweithio cymdeithasol roi data’r cwmni mewn perygl uniongyrchol. Dyma rai rheolau syml y gall busnesau eu rhannu â’u gweithwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod rhag ymosodiadau cyffredin drwy rwydweithiau cymdeithasol:

  1. Peidiwch â chlicio ar ddolenni cyswllt dieithr.

Mae rhannu dolenni cyswllt drwy Facebook neu Twitter yn rhywbeth arferol, ond dylech osgoi clicio ar ddolenni cyswllt annelwig lle nad oes modd gweld enw’r wefan yn yr URL (mae hynny’n dod yn fwyfwy cyffredin gyda rhaglenni sy’n byrhau URL, megis bit.ly). Gall y dolenni cyswllt hyn eich gwneud yn agored i ymosodiadau maleisus a rhoi data sensitif y cwmni mewn sefyllfa fregus.

  1. Peidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol.

Dylech osgoi datgan gwybodaeth sy’n ei gwneud yn bosibl eich adnabod yn bersonol wrth gyfathrebu ar-lein, megis eich dyddiad geni a’ch cyfeiriad post, a’ch manylion banc yn enwedig. Gall troseddwyr deallus ar-lein roi darnau o wybodaeth at ei gilydd o wahanol wefannau er mwyn dwyn hunaniaeth unigolyn a gwario llawer o arian ar gardiau credyd cwmnïau, neu hyd yn oed greu pasbort ffug yn enw gweithiwr.

  1. Dylech osod cyfrineiriau cryf.

Gall gwneud pethau syml, megis creu cyfrineiriau cryf sy’n cael eu newid o leiaf bob 45-60 diwrnod, wella diogelwch TG yn sylweddol heb fod hynny’n cymryd llawer o amser. Dylech annog eich gweithwyr i beidio â chadw cyfrineiriau ar osodiadau diofyn wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd, oherwydd gallai unrhyw un sy’n colli ei liniadur ei gwneud yn hawdd i bobl ddiegwyddor gael gafael ar ddata sensitif.

  1. Dylech osgoi ffrindiau ffug.

Un math cyffredin o ymosodiad gwe-rwydo a welir gan ddefnyddwyr yw achos lle bydd troseddwyr yn herwgipio cyfrif unigolyn ar rwydweithiau cymdeithasol ac yn rhannu negeseuon â’r holl gysylltiadau sydd gan yr unigolyn hwnnw. Gall clicio ar neges gan ‘ffrind ffug’ fel hyn eich arwain i wefan allanol sy’n caniatáu i god maleisus fynd i mewn i’ch system gyfrifiadurol. Os byddwch yn cael neges sy’n anghyson â’r hyn y byddech yn disgwyl ei weld, dylech bob amser gadarnhau pwy sydd wedi anfon y neges cyn ei hagor.

  1. Dylech fuddsoddi mewn meddalwedd diogelwch.

Peidiwch â thorri corneli o safbwynt meddalwedd gwrthfirws. Efallai y byddwch yn credu eich bod yn arbed arian yn y tymor byr drwy lawrlwytho meddalwedd rhad ac am ddim sydd ar gael ar-lein. Ond pan fydd darn maleisus o feddalwedd yn llwyddo i fynd i mewn i’ch cyfrifiadur, gall gostio ffortiwn i’w gywiro a bydd yr £50 y gwnaethoch ei arbed yn dechrau ymddangos yn fargen.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i aros yn ddiogel ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol, ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch info@telemat.co.uk