Deddf yr Economi Ddigidol

Cafodd y Ddeddf ddadleuol hon gryn dipyn o sylw gan y cyfryngau ac ar lefel wleidyddol a chymdeithasol, heb sôn am y ffaith iddi gael ei chondemnio gan lawer o bobl a oedd yn cynnwys Aelodau Seneddol, Arglwyddi, diwydiant y darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a miloedd lawer o gwsmeriaid band eang.

Mae’r Ddeddf yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, ond rydym ni yn pryderu’n bennaf am yr agwedd sy’n ymwneud â thorri hawlfraint ar-lein a rhannu ffeiliau rhwng cymheiriaid.

Ers peth amser mae’r Llywodraeth wedi bod dan bwysau mawr gan ddeiliaid hawliau yn y diwydiant creadigol i weithredu ynghylch defnyddwyr gwasanaethau band eang yr “honnir” eu bod yn rhannu cyfryngau megis gemau, rhaglenni teledu, ffilmiau a cherddoriaeth nad oes ganddynt yr awdurdod i’w rhannu. Mae’r honiadau yn tueddu i gael eu cyflwyno gan ddeiliaid hawliau sy’n dadlau bod pobl wedi cael gafael ar eu hawlfraint a’u heiddo deallusol heb ganiatâd y deiliad hawliau priodol, fel rheol drwy ddulliau o rannu ffeiliau rhwng cymheiriaid.

Ond beth os nad ydych yn ymwybodol bod cynnwys sydd ar eich gwasanaeth band eang wedi’i lawrlwytho a bod arnoch angen caniatâd perchennog y cynnwys er mwyn ei ddefnyddio? Beth os nad oeddech yn sylweddoli bod rhywun wedi cysylltu â’ch gwasanaeth heb yn wybod i chi neu heb eich caniatâd? Wel, dyma un o’r prif bryderon sydd gennym ar eich rhan oherwydd, yn dechnegol, mae’n hawdd iawn i berson diegwyddor gael mynediad i’ch cysylltiad â’r rhyngrwyd os nad yw wedi’i ddiogelu, neu hyd yn oed os yw wedi’i ddiogelu’n weddol dda. Sut y byddech yn profi nad chi oedd yn gyfrifol am lawrlwytho’r ffilm neu’r cynnwys sydd â hawlfraint?

Cyfrifoldeb am weithwyr a chwsmeriaid

Un ystyriaeth arall yw gweithwyr sy’n defnyddio rhwydwaith cwmni. Efallai mai pobl fewnol, ac nid hacwyr o’r tu allan, sy’n defnyddio cysylltiad i lawrlwytho deunydd anghyfreithlon.

Yn yr un modd ag y byddai landlord yn gyfrifol am unrhyw ddirwyon pe bai rhywun yn defnyddio ei gysylltiad Wi-Fi yn anghyfreithlon yn y dafarn neu’r caffi, byddai cyflogwr sy’n talu am gysylltiad Wi-Fi hefyd yn atebol pe bai un o’i weithwyr, neu un o’i gwsmeriaid sy’n talu am y cyfleuster, yn defnyddio’r cysylltiad yn anghyfreithlon.

Erbyn hyn, dylai busnesau fod yn ystyried yn fwy difrifol yr adnoddau sydd ar gael i fynd i’r afael â diogelwch, ac rydym yn annog pob busnes i wneud hynny.

Colli cysylltiad â’r rhyngrwyd

Y gwir amdani yw bod y Ddeddf yn darparu ar gyfer rhoi mwy na phryd o dafod yn unig i unrhyw un sy’n cael ei ddal yn torri hawlfraint.

Yn gyntaf bydd llythyrau’n cael eu hanfon, a fydd yn eich hysbysu eich bod chi – neu weithiwr neu haciwr – wedi cael eich dal yn troseddu, ac yn eich rhybuddio i beidio â throseddu eto. Ar ôl cael tri o’r llythyrau hyn, gallech gael dirwy enfawr neu hyd yn oed golli eich cysylltiad â’r rhyngrwyd.

Mae’r effaith andwyol y gallai diffyg cysylltiad â’r rhyngrwyd yn eich swyddfa ei chael ar eich busnes yn hollol amlwg, ac o gofio’r hinsawdd economaidd sydd ohoni rydym yn tybio na fyddech yn croesawu dirwy chwaith.

Blocio gwefannau

Un peth arall a allai effeithio ar fusnesau yw cymal diwygiedig 18 – sef cymal 8 erbyn hyn – a fydd yn golygu bod modd blocio gwefannau os ydynt yn cynnwys deunydd â hawlfraint mewn modd anghyfreithlon.

Efallai eich bod o’r farn nad yw hynny’n broblem os caiff gwefannau megis Pirate Bay eu blocio, ond mae cwmnïau rhyngrwyd mawr yn pryderu y gallai’r Ddeddf fynd mor bell â blocio peiriannau chwilio.

Mae hyd yn oed Google wedi gwrthwynebu’r cymal, gan nodi fel a ganlyn mewn datganiad fis diwethaf: “Rydym yn credu’n gryf mewn pwysigrwydd hawlfraint, ond mae blocio drwy waharddeb yn arwain at risg uchel y gallai cynnwys cyfreithlon gael ei flocio ar gam, neu y gallai pobl gamddefnyddio’r system.”

Efallai na fyddem yn disgwyl i wefannau megis Salesforce.com gael eu blocio, ond gyda’r cynnydd yn y defnydd a wneir o wasanaethau ar-lein i gynnal rhaglenni sy’n hanfodol i fusnesau, a’r defnydd a wneir o wefannau o ddydd i ddydd at ddibenion cyfathrebu ac ymchwilio, gallai hynny gael effaith wirioneddol ar fusnesau yn y DU.

Sut y bydd y Ddeddf yn cael ei gweithredu a’i rheoli?

Mae’r rheoleiddiwr telathrebu, Ofcom, wedi cael ei alluogi i lunio Cod Ymarfer a fydd yn amlinellu’r modd y bydd y Ddeddf yn cael ei gweithredu.

Yn wreiddiol amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd chwe mis i lunio’r Cod, ac y byddai’n cynnwys cyfraniadau gan ddeiliaid hawliau a’r diwydiant darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd. Fodd bynnag, cawsom wybod yn ddiweddar fod y broses hon wedi dechrau eisoes a bod disgwyl i ddrafft cyntaf y Cod gael ei gyflwyno cyn diwedd mis Mehefin.

Mae rhyngrwyd eang yn golygu cyfrifoldeb eang…

Gallai Deddf yr Economi Ddigidol helpu i sicrhau cysylltiadau llawer gwell â’r rhyngrwyd ar draws y DU, a gosod y sylfeini ar gyfer band eang cyflym iawn wrth i ni gamu ymhellach i’r 21ain ganrif.

Fodd bynnag, wrth i’r cysylltiadau hyn â’r rhyngrwyd ddod yn fwy hanfodol i’r modd y mae busnesau’n gweithredu, mae’r dechnoleg yno i’w camddefnyddio ac mae’r gyfraith yno erbyn hyn hefyd i’w hatal.

Mae angen i fusnesau fod yn ymwybodol o’r cyfreithiau newydd a mwynhau’r manteision, ond mae angen hefyd iddynt fod yn ymwybodol o’r risgiau a allai ddod i’r amlwg, a pharatoi ar eu cyfer.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf yr Economi Ddigidol, ffoniwch ni ar 01239 712345 neu ebostiwch info@telemat.co.uk