
I lawer o bobl mae cael mynediad i wasanaeth diwifr yn holl bwysig i sicrhau profiad hwylus drwy gydol eu hymweliad. Rhagwelir cynnydd ym mherchnogaeth ffonau clyfar ar draws y byd i groesi 2 biliwn erbyn 2016. O ganlyniad i hyn mae gwasanaeth diwifr am ddim wedi dod yn gwbl angenrheidiol ar gyfer teithwyr busnes a chanran fawr o dwristiaid hamdden hefyd.
P’un ai ydych yn rhedeg gwesty, bwyty, caffi, tafarn neu atyniad ymwelwyr mae pwysigrwydd cynnig mynediad diwifr cyflym sy’n rhad ac am ddim yn glir.
Oeddech chi’n gwybod? Mae 1 ym mhob 10 cwsmer yn cyfaddef gadael lleoliad oherwydd nad oedd ganddyn’ nhw gwasanaeth diwifr.
PRESENOLDEB AR-LEIN YN HANFODOL
SUT GALLWCH CHI GAEL Y GORAU O’CH DI-WIFR?
Erbyn heddiw mae’n ddisgwyliedig i fusnesau o fewn y sector twristiaeth gynnig gwasanaeth diwifr am ddim er mwyn bodloni eich cwsmeriaid. Gall eich busnes manteisio ar lawer o ffactorau drwy gynnig gwasanaeth diwifr. Gallwch dargedu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol fydd yn eich galluogi i gynllunio:
1. Arwyddo i mewn i Facebook : Sicrhau bod eich busnes yn derbyn di-wifr
- Gall cwsmeriaid gysylltu â’r gwasanaeth di-wifr drwy Facebook
- Bydd ffrindiau Facebook pawb yn gallu darganfod eich busnes drwy’r llinyn newyddion.
- Gellir annog unigolion i hoffi eich tudalen Facebook – ffordd dda i gadw mewn cysylltiad
- Trwy Facebook gallwch ddarganfod gwybodaeth am eich cwsmeriaid a sicrhau mantais marchnata effeithiol
- Gallwch ddarganfod pa mor rheolaidd mae pobl yn ymweld â’ch tudalen.
2. Mannau poblogaidd: darganfyddwch mwy am eich cwsmeriaid
- Defnyddiwch eich di-wifr i weld lle mae eich cwsmeriaid yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser e.e. yn y caffi, y dderbynfa, y gampfa, yn yr ardd neu’r ty bwyta. Gallwch wedyn ddefnyddio’r wybodaeth i deilwra cynigion a gweithgareddau marchnata.
3. Cryfhau cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol
- Gallwch greu cynllun effeithiol i annog cwsmeriaid i rannu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol y cwmni gyda’r bwriad o gynyddu cyfeiriadau ar lafar.
- Mae’n ei wneud e’n hawdd i gwsmeriaid i rannu lluniau a phrofiadau yn ystod eu hymweliad. Gall hyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’ch brand.
4. Danfon gwybodaeth i’ch cwsmeriaid yn effeithiol
- Gallwch greu tudalen glanio ar gyfer di-wifr fel ffordd o gadw mewn cysylltiad gyda chwsmeriaid a’u hysbysu o gynigion arbennig a digwyddiadau e.e. amserlen weithgareddau i’r plant, adloniant gyda’r nos, cynigion mewn bwyty.

CYNNYDD MEWN DYFEISIAU SYMUDOL YN GYRRU PWYSIGRWYDD GWASANAETH DI-WIFR
Mae’r cynnydd mewn perchnogaeth ffonau clyfar wedi cynyddu’r galw am wasanaeth di-wifr ac y mae hyn i’w weld ar draws y sector twristiaeth.
Os nad ydych yn darparu di-wifr mae yna beryg eich bod yn colli cwsmeriaid.
SUT ALL TELEMAT HELPU?
Mae ein system ddiwifr yn gyfleuster arobryn sydd â miloedd o rwydweithiau ledled y byd, sy’n darparu gwasanaeth di-dor mewn modd cyflym, hwylus a fforddiadwy. Rydym yn cynnig cyfleusterau diwifr hyblyg i fodloni gofynion ein holl gwsmeriaid. Cliciwch yma i weld sut y gall Telemat eich helpu i greu a gweithredu eich strategaeth ddiwifr.
TELEMAT IMPACT ON THE TOURISM INDUSTRY