Mae technoleg wedi gwneud camau mawr dros y blynyddoedd diwethaf. O’r herwydd, mae nifer fawr o bobol yn dibynnu ar dechnoleg yn eu bywydau bob dydd ar gyfer gwaith a chymdeithasu. Wrth i dechnoleg wella, mae angen hefyd i’r sustemau gweithredu i wella.
Ar y 14 o Orffennaf 2015, daeth cefnogaeth Microsoft ar gyfer Windows 2003 i ben. Mae nifer o gwmniau eisoes wedi newid eu darpariaeth ond mae eraill yn fwy amharod i wneud am amryw o resymau yn cynnwys cost.
Yn bartner cofrestredig â Microsoft, gall Telemat eich helpu i ddatrys y broblem hon trwy roi cyngor a chymorth i uwchraddio eich sustem.
Y risg sy’n bosib o beidio ag uwchraddio o Windows 2003.
Ni fydd Microsoft yn anfon diweddariadau diogelwch atoch, nac ychwaith yn cynnig atgyweiriadau cyflym a chefnogaeth ar-lein. Dyma rhai problemau all godi wrth redeg Windows 2003:
- Diweddariadau’n dod i ben
Yn ôl Microsoft, roedd 37 o ddiweddariadau diogelwch yn ystod 2013 yn ymwneud â Windows 2003. Bydd y gefnogaeth yma yn dod i ben ar 14 Gorffennaf, 2015 sy’n gadael eich sustem yn agored i beryglon. Cyngor Microsoft yw y dylech uwchraddio’n syth er mwyn osgoi unrhyw botensial o risg.
- Risg Diogelwch
O beidio ag uwchraddio, mae’r potensial am ymosodiadau cyber yn cynyddu. Gall hyn gael effaith ddirifol ar eich bas-data a rhaglenni eraill sy’n cael eu rhedeg ar Windows 2003.
- Cyfradd methiant uchel
Os ydych yn rhedeg eich sustem ar Windows 2003, mae’n bur debyg fod eich caledwedd dros ddeng mlwydd oed. Golyga hyn fod y gefnogaeth gan y gwerthwr wedi hen dod i ben a bod ei fywyd gweithredol hefyd yn llai effeithiol. Trwy beidio ag uwchraddio gall gynyddu eich risg o golli’r holl ddata ar eich gweinydd.
- Cydymffurfiaeth
Mae methu â chydymffurfio â’r safonau a rheolau angenrheidiol ar gyfer gweithrediadau cyfrifiadurol â’r potensial i arwain at broblemau. Ni fydd gweinyddwyr Windows 2003/R2 yn cydymffurfio â’r rheolau angenrheidiol ar ôl 14 Gorffennaf. Gall hyn olygu na fydd Visa a MasterCard er enghraift yn fodlon cydweithio â’ch busnes.
- Dim cefnogaeth
Heb y gefnogaeth angenrheidiol gall y costau sy’n gysylltiedig â rhedeg Windows 2003 godi’n sylweddol wrth i chi chwilio am ddarpariaeth arall i sicrhau diogelwch a gweithredu effeithiol.
Beth yw’r opsiynau i fusnesau bach a chanolig?
Os ydych yn parhau i weithredu ar Windows 2003 dylech gynllunio’n syth ar gyfer trosglwyddo’r ddarpariaeth er mwy diogelu’ch rhwydwaith. Wrth gwrs, mae’n bosib i chi drosglwyddo i’r fersiwn newydd a gynigir o fewn Windows ond ‘falle nawr yw’r amser i ystyried opsiynau eraill.
Dyma sut allwch uwchraddio effeithlonrwydd eich sustem:
- Aros ym myd Windows.
Os ydych yn gyfarwydd â defnyddio Windows ‘falle byddwch yn hapus i ddewis yr opsiwn o ddiweddaru i’r fersiwn newydd sef Windows 2012. Edrychwch ar Microsoft Windows Server 2003 Migration Planning Assistant a’r Microsoft Assessment and Planning Toolkit i weld pa opsiwn sydd orau i chi.
- Symud i Linux
Os nad oes ganddoch chi’r offer angenrheidiol ar gyfer rhedeg Microsoft, mae’r opsiwn o newid i weinydd Linux ar gyfer busnesau bach yn werth ei ystyried. Gallwch ddewis o:
- Univention Corporate Server
- Zentyal SMB Edition
- Igaware Small Business Server
Opsiwn arall fyddai adeiladu gweinydd Linux o’r newydd. Byddai ymfudo llwyddiannus i Linux yn golygu na fyddai defnyddwyr yn sylwi ar unrhyw newid. Dylai defnyddwyr allu ddod o hyd i adnoddau, darllen e-byst a threfnu cyfarfodydd yn union fel ag o’r blaen.
- Ystyriwch y Cwmwl
Mae rhai pobol yn nerfus ynglŷn â chamu i’r tywyllwch. Ond, mae rheiny sydd wedi mentro i’r cwmwl wedi gweld y budd. Mae’n hanfodol i fusnesau gynllunio sut i reoli’r newid ac i roi digon amser ar gyfer cyfarwyddo â’r sustem newydd.
Mae’r Cwmwl yn cynnig nifer o opsiynau:-
Os ydych yn dibynnu ar weinydd Windows 2003 ar gyfer storio ffeiliau yn bennaf byddai Microsoft Azure Storage gyda dyfais StorSimple yn addas i chi.
- I fusnesau bach byddai sustem sy’n defnyddio’r Cwmwl yn fwy buddiol e.e. Dropbox, Google Drive neu OneDrive. Mae’r rhain yn sustemau hawdd iawn i’w defnyddio. Maent yn hyblyg ac yn effeithiol o ran cost.
- Os ydych yn defnyddio cyfnewidfa Microsoft ar gyfer eich calendr ac e-bost gallwch ddefnyddio Microsoft Exchange Online yn ei le.
- Bydd Office 365 yn addas ar gyfer cynnal Office, Exchange, Sharepoint a Lync.
- Gallwch adael Microsoft yn gyfangwbl trwy newid i Google Apps neu rhowch gynnig ar WorkMail – gwasanaeth newydd gan Amazon i fusnesau bach gyda chefnogaeth Outlook.
Mae’n amser i weithredu. Beth yw eich cynllun chi ar gyfer uwchraddio?