enquiries@telemat.co.uk     01239 712345 hafan  |   cefndir  |   ble ‘rydym ni?  |  mewngofnodi cwsmer  |  cysylltwch â ni

Hyfforddiant - Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL)

Beth yw E.C.D.L?

Trwyddd Yrru Gyfrifadurol Ewropeaidd® (ECDL) yw’r cymhwyster rhyngwladol cydnabyddedig sy’n galluogi pobl i arddangos eu medrusrwydd mewn sgiliau cyfrifiadurol. Mae ECDL yn gymhwyster defnyddiwr TG sy’n prysur dyfu mewn mwy na 125 o wledydd.

Cynlluniwyd ECDL yn benodol ar gyfer y rhai sy’n dymuno cael cymhwyster meincnod mewn cyfrifiadureg i’w galluogi i ddatblygu eu sgiliau TG a gwella’u rhagolygon gyrfa.

Manteision allweddol:

ECDL

Unigolion
Dyma rai o’r manteision:

  • Sicrhau fod gennych hyder a medrusrwydd dros ystod o sgiliau defnyddio TG
  • Gwella cyflymder ac effeithiolrwydd gartref ac yn y gwaith
  • Cynorthwyo i ddod o hyd i waith drwy ennill a phrofi fod gennych sgiliau TG hanfodol
  • Mae ECDL, sy’n gymhwyster rhyngwladol cydnadyddedig, ar gael mewn mwy na 125 o wledydd.
  • Nid yw’n ofynnol bod ag unrhyw wybodaeth flaenorol am gyfrifiaduron i wneud ECDL
  • Gall ennill ECDL leihau’r straen a’r rhwystredigaeth sy’n amlwg pan na ellir defnyddio’r cyfrifiadur yn effeithiol.
  • Mae’n cynorthwyo i greu gyrfa a llwybr cymhwyster all eich arwain i lefel uwch pe dymunech

Mudiadau

Mae’n hanfodol cynnig Hyfforddiant a Datblygiad i’ch staff, yn enwedig felly gan ei bod yn mynd yn fwy cystadleuol wrth ddenu a chadw staff gyda’r sgiliau addas. Drwy ennill ECDL bydd eich staff yn fwy hyderus ac effeithiol wrth ddefnyddio cyfrifiaduron. Dyma’r manteision:

  • Arbed amser ac arian drwy gynnydd yn safon perfformiad staff
  • Lleihad amlwg yn nifer y problemau TG gofnodir gan y ddesg gymorth
  • Cynnydd yn y teimlad o foddhad mewn gwaith ymysg staff
  • Cynnydd yn nifer y staff gedwir ymlaen
  • Arddangos buddsoddiad mewn pobl a chynorthwyo recriwtio

Beth rydym yn gynnig?
Mae Telemat yn darparu ystod o opsiynau dysgu unigol ar gyfer ennill cymwysterau. Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda’ch llyfr cofrestru E.C.D.L., gallwch sefyll yr arholiadau am gymhwyster yn ein canolfan brawf gofrestredig yng Nghastellnewydd Emlyn neu ganolfannau lloeren yn Aberteifi, Llanelli neu Gaerfyrddin.

Cysyniad T.G. Defnyddio’r cyfrifiadur a rheoli ffeiliau
Prosesu geiriau (MS Word) Taenlenni (MS Excel)
Basdata (MS Access) Cyflwyniadau (MS Powerpoint)
Gwybodaeth a Chyfathrebu (Uned E - Dewisol—Defnyddio TG)

E.C.D.L.— Cofrestru a dewisiadau

Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn llyfr cofrestru a ddefnyddir i gofnodi cynnydd eich cymhwyster. Mae’r llyfr cofrestru hwn yn unigryw i’r unigolyn ac yn ddilys am dair blynedd. Dyma’r dewisiadau ar gyfer ECDL :

Dewis 1

Llyfr gwaith yn egluro’r cymhwyster i gyd
Gwaith cwrs ar CD Rhyngweithiol
Arholiadau ar 7 modiwl
Tystysgrif ECDL ar ôl pasio

Dewis 2

Llyfr gwaith yn egluro’r cymhwyster i gyd.
Arholiadau ar 7 modiwl.
Tystysgrif ECDL ar ôl pasio.

Dewis 3

Gwaith cwrs ar CD Rhyngweithiol.
Arholiadau ar 7 modiwl.
Tystysgrif ECDL ar ôl pasio.

Dewis 4

Mynediad i waith cwrs ar-lein drwy’r rhyngrwyd.
Arholiadau ar 7 modiwl.
Tystysgrif ECDL ar ôl pasio.

Dewis 5

Mynediad i waith cwrs ar-lein drwy’r rhyngrwyd
Arholiadau ar 4 modiwl
Tystysgrif ECDL Cychwynnol ar ôl pasio

Dewis 6

Llyfr gwaith yn egluro’r cymhwyster i gyd
Arholiadau ar 3 modiwl.
Tystysgrif Lefel 1 ar ôl pasio

Dewis 7

Arholiadau ar 7 modiwl. Tystysgrif ECDL ar ôl pasio.

Dewis 8

CD yn egluro’r cymhwyster llawn

Dewis 9

Llyfr gwaith yn egluro’r cymhwyster i gyd



Caniateir uchafswm o 2 ail-ymgais i bob dewis

 

ECDL Advance Learning Electric Paper ECDL Foundation

Am fwy o wybodaeth ?

I ddysgu mwy am hyn a gwasanaethau TG eraill rydym yn gynnig, cysylltwch â ni ar 01239 712345 neu trwy ebost

 

Antur Teifi Business Park, Aberarad, Newcastle Emlyn, Carmarthenshire, SA38 9DB.

Ymholiadau Cyffredinol: 01239 712345 - Gwerthiant a Gofal Cwsmer: 01239 712344

Email Enquiries: enquiries@telemat.co.uk - Technical Helpdesk: helpdesk@telemat.co.uk

EQA IIP Test Centre
Iaith Busnes gyda siaradwyr Cymraeg
ISO 9001:2000